Neidio i'r prif gynnwy

Academi Gwelliant Cymru

 

Croeso i Academi Gwelliant Cymru


Mae Academi Gwelliant Cymru yn rhan o Gwelliant Cymru, y gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ein nod yw helpu unigolion, timau a systemau i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwell gofal a chanlyniadau i gleifion. 

Mae ein tîm o arbenigwyr yn dylunio ac yn darparu ystod o adnoddau a rhaglenni hyfforddi sy'n cefnogi holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru. Rydym yn cynnig opsiynau dysgu hyblyg wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol lefelau o brofiad gwella. Gallwn eich helpu i asesu eich lefel bresennol o allu gwella a'ch arwain at y cam nesaf sy'n addas i'ch anghenion. 

Rydym hefyd yn cydweithio â thimau Gwella Ansawdd mewn byrddau iechyd lleol neu ymddiriedolaethau, a phartneriaid eraill, sy’n gallu darparu ein pecynnau hyfforddi’n lleol, sy’n gwneud y dysgu’n fwy hygyrch a pherthnasol. 


Archwiliwch ein casgliad o adnoddau dysgu a'n hamrywiaeth o gyrsiau gwella ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

 

Ddim yn siŵr ble i ddechrau arni? 

Rydym wedi cynllunio ein cyrsiau gwella i weddu i bob lefel o wybodaeth a sgil. Lle bo modd, rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer dewisiadau astudio. Rydym yn cynnig cyrsiau ar-lein sy’n fyr ac yn rhyngweithiol, a chyrsiau ystafell ddosbarth sy’n cynnig cydweithio a thrafodaeth. Ni waeth beth sydd orau gennych, byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau gwella. Os hoffech unrhyw gyngor am ein cyrsiau, cysylltwch â ni.

Mae'r Academi yn rhoi mynediad hawdd i chi at adnoddau gwella effeithiol y gallwch eu defnyddio unrhyw bryd. Gallwch ddod o hyd i offer a dulliau diagnostig yn ein Llyfrgell Adnoddau digidol i'ch helpu i gyflawni gwelliant hirdymor. Rydym yn diweddaru ein hadnoddau yn rheolaidd i'ch cefnogi ar eich taith wella. 

Cwestiynau Cyffredin