Mae'r TÎm Diogelu lechyd yn rhoi cyngor iechyd y cyhoedd arbenigol ar reoli clefydau heintus. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r GIG, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill eraill i helpu i leihau lledaeniad clefydau heintus yng Nghymru.
Mae'r Tîm Diogelu Iechyd yn darparu Gwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan o'r enw AWARe, sy'n derbyn yr holl adroddiadau clefydau hysbysadwy yn ystod oriau gwaith arferol.
Mae gennym saith tîm rhanbarthol hefyd sydd wedi’u lleoli ledled Cymru ac sydd wedi’u halinio â’r 3 ranbarth, sef:
Mae'r timau hyn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid rhanbarthol i leihau effaith clefydau heintus yn eu cymunedau lleol.
Y prif bwynt cyswllt ar gyfer y Tîm Diogelu Iechyd yw ein gwasanaeth AWARe (Ymateb Acíwt Cymru Gyfan).
Gall gweithwyr iechyd proffesiynol ffonio neu e-bostio:
Ffôn: 0300 00 300 32
E-bost: AWARE@wales.nhs.uk
Dim ond rhwng dydd Llun a dydd Gwener 9am-5pm y caiff hysbysiadau e-bost eu hadolygu.
Y tu allan i'r amseroedd hyn mae gennym dîm ar alwad hefyd, sy'n delio â materion diogelu iechyd brys yn unig y gellir cysylltu â nhw drwy ffonio 0300 00 300 32.
Gall gweithwyr iechyd proffesiynol roi gwybod am glefyd hysbysadwy neu holi ar fater diogelu iechyd, yma.
Fodd bynnag, os yw'n fater brys neu'n hysbysiad, ffoniwch AWARe ar 0300 00 300 32.
Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n dymuno rhoi gwybod am glefydau hysbysadwy y gallai fod angen gweithredu arnynt ar unwaith neu ar frys ym maes iechyd y cyhoedd, gysylltu â ni bob amser dros y ffôn.
Cynllun ar gyfer Brigiadau o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru