Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwên 2023-2024

Adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-2024

Bydd y ddolen hon yn eich cyfeirio Adroddiad Blynyddol Cynllun Gwên 2023-2024

Iechyd y Geg o fewn Rhaglen Plant lach Cymru

Rhoddwyd hyfforddiant addysg iechyd y geg i 640 o ymwelwyr iechyd. Cafodd 832 o weithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal plant, gofal iechyd a chymdeithasol hyfforddiant tebyg gan y tîm Cynllun Gwên .

Dosbarthwyd 35,544 o becynnau brwsio dannedd gartref gan ymwelwyr iechyd i deuluoedd yn ystod ymweliadau Plant Iach Cymru. Dosbarthodd ymwelwyr iechyd 16,562 o gwpanau hyfforddi yfed hefyd i deuluoedd.

Brwsio dannedd dan oruchwyliaeth yn y feithrinfa a'r ysgol

Darparodd 642 (79%) o feithrinfeydd cymwys a 531 (63%) o ysgolion cymwys raglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth yn 2023/24.

Cafodd 4,668 o staff mewn meithrinfeydd ac ysgolion hyfforddiant gan dîm y Cynllun Gwên, i ddarparu’r rhaglen brwsio dannedd.

Dywedodd 86% o leoliadau fod y plant yn brwsio’u dannedd bob diwrnod ysgol.

Cynhaliodd tîm y Cynllun Gwên 3582 o ymweliadau sicrhau ansawdd yn ystod y flwyddyn.

Cymerodd 59,079 o blant ran mewn rhaglen brwsio dannedd yn y feithrinfa neu’r ysgol gynradd yn ystod 2023/24.

Y gyfradd gydsynio gyfartalog gan rieni/gofalwyr i gymryd rhan oedd 89%.

Dosbarthwyd 167,695 o becynnau i frwsio dannedd gartref mewn meithrinfeydd ac ysgolion i blant a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen Cynllun Gwên, i’w hannog i frwsio eu dannedd ddwywaith y dydd gartref.

Rhoi triniaeth farnais fflworid yn yr ysgol

Manteisiodd 621 o leoliadau (75% o ysgolion cymwys) ar y rhaglen farnais fflworid.

Cafodd 549 o leoliadau ddau ymweliad ar gyfer triniaeth farnais fflworid yn ystod y flwyddyn academaidd, a chafodd 72 un ymweliad yn unig.

Cafodd 40,997 o blant driniaeth farnais fflworid yn yr ysgol yn ystod 2023/24.

Y gyfradd gydsynio gyfartalog gan rieni/gofalwyr oedd 77%.

Cafodd 14,580 o blant (36%) driniaeth farnais fflworid unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd, a chafodd 26,417 o blant (64%) driniaeth farnais fflworid ddwywaith.

Cafwyd pryderon ynghylch pydredd dannedd ymysg 8214 o blant (20%).

 

 

Diweddarwyd diwethaf:  15/10/24