Mae cronfa ddata a’r broses atgyfeirio NERS bresennol wedi dyddio. Mae’n anodd tynnu data cadarn, dibynadwy a chywir ohoni ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae angen system fodern, effeithiol a chadarn ar NERS i sicrhau y gellir ei monitro a'i gwerthuso'n effeithiol, er mwyn deall a gwella ei ansawdd a'i effeithiolrwydd, yn ogystal â dangos effaith y cynllun.
Mae'r system newydd yn ddiogel, a thrwy ddefnyddio system atgyfeirio electronig, mae'n dileu'r angen am atgyfeiriadau papur. Bydd elfen gofal sylfaenol y system hefyd yn cael ei hintegreiddio'n llawn ag EMIS a VISION gan ganiatáu i atgyfeiriadau gael eu hanfon yn syth, a hefyd yn lleihau amseroedd aros atgyfeirio. Bydd gan weithwyr iechyd proffesiynol mewn lleoliadau eilaidd a chymunedol fynediad at borth ar y we i atgyfeirio cleifion gan ddefnyddio system ddiogel
Bydd y Porth Theseus newydd yn rhoi mynediad i system atgyfeirio a rheoli cleifion Theseus i Weithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Ymarfer Corff, Cydlynwyr a Rheolwyr NERS, a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u cofrestru gan y GIG i atgyfeirio cleifion.
Bydd nifer o sesiynau hyfforddi ar-lein wedi'u trefnu cyn ac ar ôl lansio'r system ar gyfer NERS Gweithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a Chydlynwyr NERS.
Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u cofrestru gan y GIG yn cael mynediad at borth hyfforddi Theseus gyda fideos a dogfennau defnyddiol i dywys staff drwy'r system.
Mae llawer o fanteision i symud rheolaeth cleifion NERS i borth Theseus, mae'r rhain yn cynnwys:
Bydd porth Theseus yn gwella ansawdd casglu data ac yn caniatáu echdynnu data cadarn, dibynadwy a chywir.
Bydd adroddiadau safonedig yn sicrhau bod data ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (e.e. trwy fewnbwn, derbyniad, ymlyniad a chynnal a chadw, data demograffig, rhestrau aros) ar gael yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Bydd hyn hefyd yn galluogi Rhaglen NERS i fonitro a gwerthuso canlyniadau ac effaith y cynllun yn ogystal â nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda er mwyn rhannu arferion gorau a pha agweddau sydd angen bod yn ganolbwynt i brosiectau gwella ansawdd.
Mae eich cefnogaeth yn hanfodol wrth gefnogi rhaglen NERS i hyrwyddo manteision cadarnhaol defnyddio'r system newydd i bob gweithiwr iechyd proffesiynol sydd wedi'i gofrestru gan y GIG a all atgyfeirio at NERS o fewn gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol.
Gyda'ch help chi, gallwn sicrhau:
Bydd porth Theseus yn galluogi cynlluniau NERS lleol i fonitro'r galw yn erbyn capasiti, olrhain llwythi achosion Gweithwyr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ac adolygu canlyniadau cleifion.