Neidio i'r prif gynnwy

System Rheoli Cleifion Newydd

Ym mis Ionawr, lansiodd y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) system electronig newydd ar gyfer atgyfeirio a rheoli cleifion.  Bydd Helpa Fi i Stopio hefyd yn ymuno â NERS ar y system hon yn 2024.

Disodlodd y system newydd ar y we, sef porth Theseus, hen gronfa ddata NERS a bydd yn rheoli cleifion mewn un system o’r adeg y cânt eu hatgyfeirio yr holl ffordd hyd nes iddynt gwblhau a gadael NERS.

 

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) – Hysbysiad Preifatrwydd

Pwrpas yr hysbysiad hwn yw eich hysbysu pam a sut y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn prosesu eich data personol pan fyddwch yn cymryd rhan yn y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS).

Mae NERS yn rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig sydd â’r nod o wella iechyd a llesiant oedolion eisteddog ac anweithgar sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd ag un yn barod.

Mae’n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion a atgyfeiriwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig y GIG, drwy ddefnyddio technegau newid ymddygiad i ymgorffori arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.

Gwahoddir cleifion sy'n cael eu cyfeirio at NERS, ac sy'n gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen, i'w canolfan hamdden leol am asesiad cychwynnol gyda gweithiwr proffesiynol atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff cymwys. Cynigir rhaglen ymarfer corff wedi'i theilwra dan oruchwyliaeth iddynt am hyd at 16 wythnos, ac adolygir eu cynnydd ar adegau allweddol.

Mae Rhaglen NERS yn cael ei goruchwylio gan ICC a’i darparu’n lleol gan dîm NERS lleol yn un o’r lleoliadau canlynol, yn dibynnu ar yr ardal: Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau Hamdden neu Fyrddau Iechyd.  Mae'r data atgyfeirio a’r data cyfranogiad yn y rhaglen ar gyfer pob claf sy'n cymryd rhan yn cael eu casglu a'u cadw o fewn system atgyfeirio a gweinyddu cleifion NERS Theseus.  Mae Theseus yn cael ei ddatblygu, ei gynnal a'i letya gan Cyber ​​Media Solutions Ltd ar ran ICC.

Bydd y timau NERS lleol yndefnyddio eich data personol i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi ymrwymo iddo.  Bydd ICC hefyd yn prosesu eich data personol i werthuso’r cynllun ac i gefnogi gwelliannau i wasanaethau. Bydd eich data personol yn cael eu cadw am uchafswm o 8 mlynedd ac ar ôl y cyfnod hwn byddeich data yn ddienw.  Bydd data dienwhefyd yn cael eu cyflwyno ddwywaith y flwyddyn i system Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (Banc DataSAIL ) i’w defnyddio at ddibenion ymchwil a gwerthuso.

Mae rhagor o fanylion am SAIL ar gael yma: Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (Banc Data SAIL) - Gwyddor Data Poblogaeth (swan.ac.uk)

I gael copi o Hysbysiad Preifatrwydd ICC, ewch i’r canlynol:

Hysbysiad Preifatrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)