Mae smygu yn peri pryder mawr o ran iechyd y cyhoedd ac mae ymysg y prif ffactorau risg ar gyfer blynyddoedd bywyd wedi eu haddasu gan anabledd (DALY) yng Nghymru.
Mae Ysmygu yng Nghymru yn broffil rhyngweithiol sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ymddygiad, canlyniadau a rhoi’r gorau i smygu yn ôl bwrdd iechyd, awdurdod lleol a phumed amddifadedd. Mae tab trosolwg wedi ei gynnwys hefyd yn cynnwys gwybodaeth lefel uchel a map tystiolaeth, sy’n rhoi mynediad strwythuredig i ffynonellau tystiolaeth ar destunau rhoi’r gorau i smygu, ataliaeth a dadnormaleiddio.
Mae’r proffil wedi cael ei greu i gefnogi datblygiad cynlluniau i gyflawni’r amcanion a nodir yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyflwynir gwybodaeth ar draws cyfres o dabiau i’ch galluogi i fynd i’r ardal sydd o ddiddordeb i chi:
Mae’r proffil yn cynnwys opsiynau lawrlwytho ac mae pob dangosydd yn cynnwys botwm ‘Dangos/cuddio gwybodaeth dechnegol’ i’ch galluogi i weld mwy o wybodaeth am y dangosydd yn cynnwys cafeatau.
Cliciwch yma i weld y cyhoeddiad mewn ffenestr newydd
Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost: arsyllfaiechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk