Roedd 10% o’r holl fechgyn a 18% o’r holl ferched yng Nghymru yn 2023 wedi’u dosbarthu fel defnyddiwr problemus o’r cyfryngau cymdeithasol.
Roedd merched o aelwydydd cyfoeth isel (21%) a chyfoeth canolig (19%) yn fwy tebygol o gael eu dosbarthu fel defnyddwyr problemus o’i gymharu â rhai o aelwydydd cyfoeth uchel (16%).
Dosbarthwyd dros 1 o bob 5 merch (21%) ym Mlwyddyn 9 a Blwyddyn 10 yn ddefnyddwyr problemus o’r cyfryngau cymdeithasol, sydd ddwywaith y nifer o fechgyn (10%) yn yr un grwpiau blwyddyn yn 2023.
Dywedodd mwy na hanner y merched (54%) yng Nghymru eu bod wedi profi teimladau o hwyliau isel, tymer flin, nerfusrwydd, neu eu bod yn cael trafferth cysgu. Dim ond tua thraean o fechgyn (32%) a adroddodd eu bod yn profi’r un problemau.
Roedd merched mewn aelwydydd cyfoeth isel (61%) yn fwy tebygol o brofi’r uchod na’r rhai o aelwydydd cyfoeth uwch (49%).
Yng Nghymru, roedd merched ddwywaith yn fwy tebygol o deimlo’n nerfus (46%) na bechgyn (23%). Roedd merched hefyd yn fwy tebygol o brofi hwyliau isel (40%) o’i gymharu â bechgyn (22%).
Gwelwyd cynnydd yn nifer y myfyrwyr a oedd wedi rhoi cynnig ar fepio. Roedd 26% o'r holl fyfyrwyr wedi rhoi cynnig ar fepio yn 2023, sydd 20% yn uwch na’r nifer yn 2021.
Roedd dros hanner merched Blwyddyn 11 (50%) wedi rhoi cynnig ar fepio yn 2023. Roedd hyn bron ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn honno (26%).
Pan ofynnwyd i bob myfyriwr am amlder eu defnydd o fêps, adroddodd merched Blwyddyn 11 y defnydd wythnosol (19%) a defnydd dyddiol (14%) uchaf o’i gymharu â phob grŵp blwyddyn a rhywedd arall. Roedd hyn yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd o ddefnydd wythnosol (7%) a defnydd dyddiol (5%) ar gyfer Cymru.
Roedd bechgyn yn fwy tebygol o wario eu harian eu hunain ar gamblo o’i gymharu â merched. Dywedodd 14% o fechgyn eu bod wedi gwario eu harian eu hunain yn gamblo yn ystod y 7 diwrnod diwethaf o’i gymharu â dim ond 8% o ferched.
Dangosodd bechgyn ymddygiad gamblo cynyddol gydag oedran cynyddol. Adroddwyd bod 19% o fechgyn yn gamblo yn 16 oed. Ni welwyd y duedd hon mewn merched gyda gamblo yn aros ar tua 8% ar gyfer pob oedran.
Yn 2023, roedd canran y plant a oedd yn bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol wedi codi’n ôl i’r lefelau a welwyd ddiwethaf yn 2017; bodlonodd 23% o fechgyn ac 14% o ferched y canllawiau. Er bod hyn i'w groesawu, golyga hyn fod mwyafrif helaeth o blant yn dal i fethu cyrraedd y lefelau a argymhellir.
Mae gweithgarwch corfforol yn tueddu i ddirywio gydag oedran/blwyddyn ysgol.
Yn 2023, roedd 45% o blant a oedd yn byw mewn cartrefi cyfoeth uchel yn cymryd rhan mewn ymarfer corff egnïol y tu allan i oriau ysgol o leiaf 4 gwaith yr wythnos tra oedd 32% o blant a oedd yn byw mewn cartrefi cyfoeth isel yn cymryd rhan yn yr un math o ymarfer corff.
Yn gyffredinol, roedd bwlch mawr rhwng y ganran o fechgyn a merched a oedd yn cymryd rhan mewn ymarfer corff y tu allan i'r ysgol, sef 49% a 31% yn y drefn honno.
Mae tueddiadau diweddar yn dangos cynnydd mewn bwlio ymhlith pobl iau:
Yn 2021 roedd “Bwlio eraill” yn 15%, o gymharu â 19% yn 2023.
Roedd adroddiadau o “Wedi cael eich bwlio” yn 32% yn 2021 ac wedi cynyddu i 38% yn 2023.
Adroddwyd bod seiberfwlio yn 18% yn 2021, o gymharu â 21% yn 2023.
Mae hyn yn cyd-fynd ag ymdeimlad cynyddol o ynysigrwydd cymdeithasol, gan fod llai o bobl ifanc yn teimlo y gallant ddibynnu ar eu ffrindiau. Yn 2023, dim ond 61% oedd yn dweud y gallent ddibynnu ar eu ffrindiau, o gymharu â 67% yn 2017.
Roedd y duedd ar i fyny rhwng 2019 a 2023 mewn sgorau uwch yn yr Holiadur Cryfderau ac Anawsterau (SDQ) sy’n mesur problemau a chryfderau seicolegol. Roedd gwahaniaethau nodedig rhwng y rhywiau. Mae sgôr gyffredinol uwch yn dynodi iechyd meddwl gwaeth.
Yn 2023, sgoriodd 42% o fenywod yn uchel neu’n uchel iawn o gymharu â 27% o wrywod. Merched ym mlynyddoedd 9 a 10 sy'n dangos y sgorau uchaf ar draws yr holl grwpiau blwyddyn.
Mae'r bwlch anghydraddoldeb rhwng myfyrwyr sy'n dweud eu bod yn bwyta o leiaf un dogn o ffrwythau neu lysiau'r dydd yn ôl graddfa cyfoeth teuluol yn ehangu dros amser. Yn 2023, dywedodd 53% o fyfyrwyr o deuluoedd cyfoeth uchel eu bod yn bwyta o leiaf un dogn o ffrwythau neu lysiau bob dydd o gymharu â 36% o deuluoedd cyfoeth isel.
Mae tuedd gyffredinol yn y grwpiau blwyddyn iau sy'n nodi bod canran uwch o ffrwythau neu lysiau'n cael eu bwyta o gymharu â grwpiau blwyddyn hŷn. Yn 2023, dywedodd 50% o flwyddyn 7 eu bod wedi bwyta un dogn o gymharu â 44% o ddisgyblion blwyddyn 11.
Mae’r duedd ar i fyny, yn enwedig ar gyfer merched sy'n teimlo llawer o bwysau oherwydd gwaith ysgol yng Nghymru. Yn 2017, dywedodd 28% eu bod wedi profi’r pwysau hwn, gan godi i 36% yn 2023.
Mae myfyrwyr sy'n teimlo'n anhapus, yn bryderus neu'n methu ag ymdopi yn adrodd am ostyngiad yn y cymorth yn yr ysgol ar hyd y blynyddoedd. Yn 2017, dywedodd 73% o fyfyrwyr eu bod wedi cael cymorth ysgol, gan ostwng i 59% yn 2023.