Mae’r tudalennau am arferion yn cynnig i gyrff y sector cyhoeddus adnoddau sy’n hybu ac yn hwyluso prosesau o safon i asesu effeithiau ar gydraddoldeb yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Cydraddoldeb 2011 Sector Cyhoeddus Cymru. Bydd y ganolfan yn helpu i dderbyn prosesau asesu effeithiau ar gydraddoldeb yn rhan annatod o bolisïau ac arferion cyhoeddus yn ogystal â hybu cydraddoldeb a pholisïau teg ledled Cymru.
Er mwyn byrdra, mae’r wefan hon yn defnyddio’r term “polisi” fel term hollgynhwysol i gynnwys yr ystod lawn o benderfyniadau, swyddogaethau, a gweithgareddau (gan gynnwys darparu gwasanaethau) y mae cyrff cyhoeddus yn eu cyflawni, sy’n cael eu cwmpasu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.