Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau dros amser

Gostyngodd nifer y pecynnau ailalluogi a ddefnyddiwyd dros amser.

  • RhCT: Gostyngodd nifer y pecynnau ailalluogi o 364 yn Ch1 2022/23 i 313 yn Ch4 2022/23. Ni allwn benderfynu o'n data a yw'r gostyngiad hwn yn rhan o duedd barhaus fwy neu dim ond amrywiad tymhorol. Fodd bynnag, dangosodd data gan StatsCymru (13) fod mwy o becynnau gofal ailalluogi wedi’u cwblhau yn 2021/22 o gymharu â 2022/23.
  • Pen-y-bont ar Ogwr: Ymddengys hefyd fod tuedd ar i lawr yn nifer y pecynnau gofal ailalluogi y ceir mynediad iddynt dros amser. Fodd bynnag, roedd data Ch4 2023/24 yn anghyflawn ar adeg trosglwyddo data (Ch4 2024), felly dim ond hyd at Ch3 y mae data dibynadwy ar gael.
  • Gwelwyd y gostyngiad mewn pecynnau ailalluogi ar draws yr holl grwpiau demograffig, sy'n awgrymu nad oedd un ffactor unigol yn gyfrifol. Byddai angen ymchwiliad pellach i ddeall y rhesymau y tu ôl i'r dirywiad hwn.

Ffigur 3: Nifer y pecynnau gofal ailalluogi a ddechreuwyd fesul chwarter ariannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a RhCT. (Sylwer: * yn nodi brasamcan o werthoedd oherwydd cuddio niferoedd bach; mae llinell doriad ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dynodi data anghyflawn.)