Cyfarwyddwr Anweithredol, Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
Cyfarwyddwr Anweithredol, Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
Mae Tamsin yn bartner yn MELA Cymru, cangen Gymreig Menter Gymdeithasol MELA, gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn rhychwantu'r sectorau preifat a chyhoeddus gartref ac yn rhyngwladol.
Bu Tamsin yn gweithio ym maes datblygu cymunedol a thai ar gynllun adfywio tai gwerth £200 miliwn yn Tower Hamlets, Llundain. Cyn hynny, treuliodd 4 blynedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain fel ymchwilydd ac ymgynghorydd yn canolbwyntio ar fodel ar gyfer bywoliaethau cynaliadwy trefol a gaiff bellach ei fabwysiadu'n eang yn rhyngwladol ac o fewn y DU.
Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl, a dychwelodd Tamsin i'w Chymru enedigol yn 2010, a chamu i’r busnes bwytai, gan sefydlu a rheoli dau fwyty ffyniannus yng Nghaerdydd.