Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r sefydliad iechyd cyhoeddus yng Nghymru ac yn Ymddiriedolaeth y GIG. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhoi cyfle i ymgysylltu â ni er mwyn adolygu ein cyflawniadau yn 2024/25 ar draws ehangder ein rolau a'n cyfrifoldebau niferus, ac i drafod y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau.
Mae copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Archwiliedig ar gael ar y wefan yn Gymraeg a Saesneg.
Cliciwch yma i weld a lawrlwytho'r Agenda a'r Papurau
Mae crynodeb o’r cwestiynau a’r ymatebion a gyflwynwyd i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gael i’w lawrlwytho yma.