Neidio i'r prif gynnwy

30 Ionawr 2025

Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal Ddydd Iau 30 Ionawr 2025 am 11yb. 

 

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiynau y mae croeso i aelodau'r cyhoedd eu mynychu a'u harsylwi fel rheol.  Fodd bynnag, yng ngoleuni'r cyngor a'r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19) penderfynom ym mis Mawrth 2020 er lles gorau diogelu’r cyhoedd, ein staff ac aelodau'r Bwrdd, na fyddem bellach yn ymgynnull mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd. Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd rhithwir, ac nid ydym wedi gallu eu ffrydio'n fyw.  

 

Rydym yn falch o gynghori ein bod yn darlledu ein cyfarfod Bwrdd roi'r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd arsylwi mewn amser real. Mae'r ddolen i'r cyfarfod wedi'i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

 

Dolen i'r Digwyddiad Byw (30 Ionawr 2025 Cyfarfod)

(Ychwanegir y Cyswllt Byw cyn y cyfarfod.)

Fel mynychwyr byddwch yn gallu arsylwi ar y cyfarfod drwy Microsoft Teams - bwrdd gwaith (Windows neu Mac), ar y we, neu declyn symudol. Os nad oes gennych Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Noder nid yw Safari yn gweithio ar hyn o bryd.

 

Gallwch weld y cyfarfod yma.

 

Os oes gennych unrhyw adborth ar y cyfarfod hwn, neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r Bwrdd, anfonwch e-bost:  Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cyfarfod y Bwrdd.

 

Papurau


Bydd y papurau ar gael yma ychydig cyn y cyfarfod.

 

Cofnodion


Mae'r cofnodion ar gael yma.