Os oes gennych symptomau TB, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu, a fydd yn rhoi cyngor priodol i chi ac yn eich atgyfeirio i sgrinio os oes angen.
Mae symptomau TB gweithredol yn cynnwys:
- Peswch parhaus sy'n para am fwy na thair wythnos ac sydd fel arfer yn creu fflem, a all fod yn waedlyd
- Colli pwysau
- Chwysu yn ystod y nos
- Tymheredd uchel (twymyn)
- Blinder
- Colli archwaeth
- Chwyddo yn y gwddf