Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd angen i mi ei wneud? 

Cysylltwyd yn uniongyrchol ag unrhyw un yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan yr achosion.

Mae nifer mawr o bobl sydd wedi'u nodi fel cyswllt rhywun â TB, ac ysgrifennwyd atynt ond nad ydynt wedi mynd i apwyntiadau sgrinio. Byddem yn eich annog yn gryf i wneud hynny nawr.

Os ydych wedi cael llythyr sydd wedi nodi y gallech fod yn gyswllt i rywun sydd â TB, ffoniwch 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1 ar gyfer profi a brechu er mwyn trefnu apwyntiad ar gyfer sgrinio.

Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich profi os ysgrifennwyd atoch, a thrwy ddod i gael eich profi byddwch yn helpu i ddod â'r achosion hyn i ben. Neu gallwch anfon e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk.