Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Beth yw’r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig?

Bydd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn cael ei gyhoeddi ar 20 Mai 2024 ar wefan yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig.

Mae’r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn Ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i archwilio’r amgylchiadau lle cafodd dynion, menywod a phlant a gafodd driniaeth  gan wasanaethau iechyd gwladol yn y Deyrnas Unedig waed heintiedig a chynhyrchion gwaed heintiedig, yn enwedig yn y 1970au a’r 1980au.

Mae cwestiynau ac atebion cyffredin am yr Ymchwiliad ar gael gan Wasanaeth Gwaed Cymru.

 

Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n poeni?

Mae gwasanaeth profi gartref am ddim ar gael yng Nghymru y gallwch ei ddefnyddio i brofi am feirysau a gludir yn y gwaed.

Dylai unigolion ystyried cael prawf os cawsant drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991, ac nad ydynt yn flaenorol wedi’u profi am feirws a gludir yn y gwaed.

 

Beth sy'n digwydd os daw’r canlyniadau yn ôl yn bositif?

I bobl a gafodd drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991, mae'r risg o fod wedi cael haint yn isel iawn. Ers 1991, mae’r holl roddwyr gwaed yn cael eu sgrinio am feirysau a gludir yn y gwaed bob tro y maent yn rhoi gwaed.

Os bydd pobl yn profi'n bositif, mae'n hawdd trin Hepatitis C a HIV gyda'r meddyginiaethau diweddaraf.

Er mwyn gwneud cais am brawf gwaed am Hepatitis C, Hepatitis B a HIV, cliciwch isod i wneud cais am eich pecyn prawf gartref am ddim. Os oes angen i chi gael mynediad at brawf mewn ffordd arall, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol.

 

Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymholiad Gwaed Heintiedig ar gael ar wefan eich bwrdd iechyd lleol. 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaldar:

Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaldar

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

Yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hwyel Dda

Bwrdd Iechydd Addysgu Powys:

Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

Ymholiad Gwaed Heintiedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y profion post, cysylltwch â


icc.YGHPrawfCartref@wales.nhs.uk