Mae tai yn un o’r blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer bywyd iach ac mae pob agwedd o’n cartrefi a ble rydym yn byw yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol.
Er mwyn i gartref fod yn iach, mae angen iddo fod yn gynnes, yn rhydd o leithder a chael digon o le a golau, er enghraifft. Mae angen iddo hefyd fod yn fforddiadwy i fyw ynddo ac yn addas ar gyfer ein hanghenion.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn glir bod yn rhaid i dai iach hefyd ddarparu teimlad o gartref – ymdeimlad o berthyn, diogelwch a phreifatrwydd.
Mae ein cymunedau a’n cymdogaethau cyfagos hefyd yn chwarae rhan mewn cefnogi iechyd a llesiant da.
Yn olaf, mae sut y caiff ein cartrefi eu hadeiladu, eu cynnal a’u cadw a pha mor effeithlon ydynt o ran ynni hefyd yn dod â manteision i’n hiechyd, ac ar yr un pryd yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Gan gydnabod bod tai yn gonglfaen sylfaenol ar gyfer bywyd iach, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid a llunwyr polisi i helpu i greu Cymru lle mae cartref pawb yn eu cefnogi i fyw mewn iechyd a lles corfforol a meddyliol da.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am waith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y maes hwn drwy archwilio ein cyhoeddiadau ar dai iach:
Cartrefi oer a’u cysylltiad ag iechyd a llesiant: adolygiad llenyddiaeth systematig
Fel rhan o brosiect ehangach i benderfynu a yw’r safonau cyfredol ar gyfer tymereddau dan do ar aelwydydd Cymru yn optimaidd ar gyfer cysur, iechyd a llesiant pobl, nod yr adolygiad hwn yw pennu ac arfarnu’r dystiolaeth gyfredol ynglŷn â’r cysylltiad rhwng cartrefi oer ac iechyd a llesiant.
Mae’r adroddiad hwn yn estyniad o gyhoeddiadau Gwneud Gwahaniaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i nod yw llywio, cefnogi ac eirioli polisi iechyd ehangach ac ymagweddau ac ymyriadau traws-sector sy’n cynnig manteision i’r cyhoedd, y system iechyd, cymdeithas a’r economi. Mae’r adroddiad yn crynhoi effaith tai (ar draws deiliadaeth) ar iechyd a lles ar draws cwrs bywyd; mae’n cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn tai fel penderfynydd iechyd trwy nodi pa ymyriadau sy’n gweithio ac yn cynnig gwerth am arian; ac yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ataliol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn ar y cyd gan Ymddiriedolaeth BRE, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn edrych yn fanwl ar y cysylltiadau rhwng amodau tai gwael – yn yr achos hwn ‘peryglon yn y cartref’ – a’u heffaith ar iechyd a lles a’r gost i’r GIG a chymdeithas ehangach.
Nod yr adroddiad hwn yw disgrifio effaith tywydd y gaeaf a thywydd oer ar iechyd a lles yng Nghymru a’r effeithiau dilynol ar wasanaethau iechyd a gofal, mewn ffordd a all lywio cynllunio strategol ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Asesiad o Effaith ar Iechyd (HIA) cynhwysfawr a chyfranogol hwn yn archwilio effaith iechyd a llesiant COVID-19 ar dai a thai heb ddiogelwch, ac yn edrych ar bwysigrwydd cael cartref cyson sydd o ansawdd da, yn fforddiadwy, ac sy’n teimlo’n ddiogel. Mae hefyd yn ystyried diogelwch deiliadaeth mewn perthynas â sefydlogrwydd, y gallu i gynnal tô uwch eich pen ac atal digartrefedd.
Mae’r papur trafod yn amlygu sut, ar hyn o bryd, y mae stoc tai Cymru yn un o’r lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop. Mae’r papur hwn yn tynnu sylw at y ffaith y gall ymdrechion i wella effeithlonrwydd ynni aelwydydd gael effaith gadarnhaol ar uchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd.
Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso’r adnodd Hyfforddiant Tai sy’n wybodus am ACE ac yn gwneud argymhellion ar gyfer hyfforddiant sy’n seiliedig ar ACE yn y dyfodol yn y sector tai. Datblygwyd yr adnodd Hyfforddiant Tai sy’n wybodus am ACE gyda phartneriaid mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr tai o wahanol ddeiliadaethau ledled Cymru, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o ACE a chynyddu hyder yn ymateb i ACE a bregusrwydd yn y sector tai.