Neidio i'r prif gynnwy

Pob Plentyn - Gwybodaeth Iechyd ar gyfer Rhieni

I rieni beichiog, mae cael babi yn amser pan fydd llawer yn gofyn am wybodaeth a chefnogaeth i'w helpu i bontio i flynyddoedd cynnar bod yn rhieni a symud drwyddynt.

Mae Pob Plentyn – Gwybodaeth Iechyd ar gyfer Rhieni yn rhaglen waith a ddarperir drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer system GIG Cymru.

Nod yr adnodd gwybodaeth iechyd ar gyfer rhieni yw:

  • Darparu ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth iechyd a llesiant ar gyfer rhieni beichiog a rhieni newydd yng Nghymru.
  • Darparu adnodd i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwybodaeth hybu iechyd gan weithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid i rieni beichiog a rhieni newydd yng Nghymru.
  • Darparu adnoddau o ansawdd uchel sy'n hygyrch i ystod eang o rieni beichiog a newydd.

Ewch i wefan Pob Plentyn i gael yr adnodd hwn:

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â thîm Pob Plentyn Cymru drwy e-bostio EveryChild@wales.nhs.uk