Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac mae’n bosibl na fydd y cynnwys hwnnw ar gael yn Gymraeg.
Ar y dudalen
Rhoddir y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau, a elwir hefyd yn frechlyn Td/IPV, er mwyn rhoi hwb i amddiffyniad yn erbyn 3 chlefyd ar wahân: tetanws (safle allanol), difftheria (safle allanol) a pholio (safle allanol).
Mae tetanws yn effeithio ar system nerfol y corff, gan achosi sbasmau yn y cyhyrau a phroblemau anadlu. Mae'n glefyd difrifol a all arwain at broblemau iechyd difrifol os na chaiff ei drin yn gyflym. Mae'n cael ei achosi pan fydd germau a geir mewn pridd neu dail yn mynd i mewn i'r corff trwy friwiau agored neu losgiadau. Ni all tetanws ledaenu o berson i berson.
GIG 111 Cymru - Tetanws (safle allanol)
Mae difftheria yn glefyd difrifol sydd fel arfer yn dechrau gyda dolur gwddf a thymheredd uwch (twymyn). Gall arwain yn fuan wedyn at broblemau anadlu a gall niweidio'r galon a'r system nerfol. Mewn achosion difrifol, gall achosi marwolaeth. Mae difftheria yn lledaenu drwy beswch a thisian neu drwy gysylltiad agos â pherson heintiedig.
GIG 111 Cymru - Difftheria (safle allanol)
Mae polio yn feirws a all effeithio ar eich system nerfol. Gall achosi gwendid parhaol yn y cyhyrau, fel arfer yn y coesau. Os yw polio’n effeithio ar gyhyrau'r frest neu'r ymennydd, gall arwain at broblemau iechyd difrifol iawn.
Gallwch ddal polio os byddwch yn dod i gysylltiad â baw rhywun sydd â’r haint, neu drwy anadlu defnynnau pan fydd yn peswch neu’n tisian.
GIG 111 Cymru - Polio (safle allanol)
Mae pobl ifanc 13-14 oed (blwyddyn ysgol 9) yn cael cynnig y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau ochr yn ochr â'r brechlyn MenACWY fel mater o drefn. Mae'r brechlynnau hyn ar gael am ddim gan y GIG fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio genedlaethol.
Mewn rhai ardaloedd, lle na fydd y brechlyn yn cael ei roi yn yr ysgol, byddwch yn cael eich gwahodd i’w gael yn eich practis meddygon teulu.
Efallai y bydd pobl ifanc a addysgir gartref neu nad ydynt mewn addysg brif ffrwd yn cael cynnig y brechlyn yn eu practis meddyg teulu neu ganolfan frechu gymunedol. Bydd angen i chi wneud apwyntiad pan fydd yn bryd i chi wneud hynny.
Os ydych yn anhwylus a bod gennych dymheredd ar ddiwrnod y brechlyn, mae'n well aros nes eich bod yn well cyn cael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i'ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad. Nid yw annwyd na mân anhwylder arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda'r unigolyn sy'n rhoi eich brechiad i chi.
Clwyfau sy'n dueddol o arwain at detanws
Gellir cynnig dos o'r pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl sydd â chlwyf sy'n dueddol o arwain at detanws yn dibynnu ar yr hanes brechu a natur y briw.
Clwyf sy'n dueddol o arwain at detanws yw clwyf sydd â risg uchel o gael ei heintio â bacteria tetanws, fel arfer o ganlyniad i halogiad â phridd, tail, neu ffynonellau eraill o'r bacteria.
Os ydych chi'n poeni am glwyf, defnyddiwch y gwasanaeth 111, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ewch i'r adran mân anafiadau neu'r adran ddamweiniau ac achosion brys agosaf.
Bydd asesiad risg yn cael ei wneud i asesu'r clwyf a phenderfynu a oes angen triniaeth. Os nad ydych wedi cael eich brechu'n llawn rhag tetanws, gellir rhoi dos o frechlyn sy'n cynnwys tetanws i chi.
Revaxis® (safle allanol, Saesneg yn unig) yw enw brand y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 a roddir i bobl ifanc yn eu harddegau yn y DU.
Un pigiad ydyw sy’n cael ei roi fel arfer yng nghyhyr rhan uchaf y fraich.
Nid yw’r un brechlyn 100% yn effeithiol, ond mae brechu yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o ganlyniad i detanws, difftheria a pholio.
Mae pob un o’r brechlynnau a ddefnyddir yng Nghymru yn cael eu profi ar filoedd o bobl cyn iddynt gael eu cynnig i ni. Mae brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae'r pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau yn bodloni'r holl safonau diogelwch. Pan fydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn cael ei fonitro'n agos.
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae'r rhan fwyaf o’r sgîl-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau. Mae'r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
poen, chwydd neu gochni lle rhoddwyd y pigiad
chur pen/pen tost
tymheredd uchel
pendro
salwch a chyfog
Mae adroddiadau am yr holl sgîl-effeithiau i'w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau, ewch i medicines.org.uk/emc (safle allanol, Saesneg yn unig) a theipiwch enw'r brechlyn.
Os bydd symptomau eich plentyn yn gwaethygu neu os byddwch yn bryderus, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Dylech roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir ar-lein yn www.mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yh).
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Os bydd y symptomau'n gwaethygu neu os ydych chi'n poeni, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich practis meddygon teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Nid oes yr un brechlyn 100% yn effeithiol, felly mae'n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau'r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau neu'r clefydau y mae'n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i’ch helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu siarad â'ch practis meddyg teulu neu’r nyrs ysgol am gyngor os oes gennych gwestiynau.