Mae afiechyd meningococol yn digwydd fel arfer fel llid yr ymennydd neu septisemia (gwenwyn yn y gwaed).
Ar y dudalen
Mae afiechyd meningococol yn digwydd fel arfer fel llid yr ymennydd neu septisemia (gwenwyn yn y gwaed).
Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un, ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Gall achosi septisemia sy'n bygwth bywyd ac arwain at niwed parhaol i'r ymennydd neu'r nerfau. Mae 12 grŵp hysbys o facteria meningococol (Neisseria meningitidis). Mae meningococol grŵp B (MenB) yn gyfrifol am tua 9 o bob 10 haint meningococol yn y DU.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am afiechyd meningococol a’r arwyddion a’r symptomau ar: GIG 111 Cymru - Meningitis (tudalen allanol).
Y brechlyn MenB yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i ddiogelu rhag llid yr ymennydd a septisemia a achosir gan facteria meningococol grŵp B.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlyn a’r afiechyd y mae’n eich amddiffyn rhagddo ar: GIG 111 Cymru - Brechlynnau (tudalen allanol).
Fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio arferol yng Nghymru, cynigir y brechlyn MenB i fabanod yn:
Mae rhai cyflyrau meddygol yn cynyddu'r risg o heintiau difrifol. Mae’n bosibl y bydd angen y brechlyn MenB ar bobl sydd eisoes â’r cyflyrau hyn. Mae’r cyflyrau’n cynnwys:
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y brechlyn MenB, neu os nad ydych yn siŵr ynghylch pryd dylai eich babi neu'ch plentyn ei gael, gallwch gysylltu â'ch meddygfa am gyngor.
Bydd babanod fel arfer yn cael y brechlyn MenB fel pigiad yn rhan uchaf eu coes (clun). Bydd plant hŷn ac oedolion yn cael y brechlyn MenB fel arfer fel pigiad yn rhan uchaf eu braich.
Y brechlyn MenB, Bexsero, yw’r unig frechlyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn y DU sy’n cynnig amddiffyniad rhag bacteria meningococol grŵp B.
Ers mis Medi 2015, mae babanod wedi cael cynnig y brechlyn MenB fel rhan o'r amserlen imiwneiddio arferol yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod y brechlyn MenB yn hynod effeithiol yn erbyn heintiau difrifol a achosir gan facteria meningococol grŵp B.
Bydd angen tri dos o'r brechlyn MenB ar fabanod i gael eu hamddiffyn yn llawn. Dylai plant sydd wedi methu brechiadau ac sydd wedi cael llai na dau ddos o’r brechlyn MenB yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywyd gael dosau pellach cyn iddynt fod yn ddyflwydd oed.
Os yw'ch plentyn wedi methu unrhyw ddosau neu os yw mewn grŵp risg, siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs y feddygfa am gyngor.
Nid yw brechlyn MenB yn cael ei roi fel mater o drefn i blant dros ddwy oed oni bai eu bod mewn grŵp risg.
Brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal llid yr ymennydd a gwenwyn gwaed (sepsis) a achosir gan haint meningitis B. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae'n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am lid yr ymennydd a sepsis ewch i
GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Llid yr ymennydd (safle allanol)
GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Sepsis (safle allanol)
Y sgîl-effaith fwyaf cyffredin a welir gyda’r brechlyn MenB mewn babanod yw gwres neu dymheredd uchel. Mae sgîl-effeithiau cyffredin eraill y brechlyn MenB yn cynnwys:
Argymhellir bod babanod yn cael paracetamol hylif babanod i atal gwres ar ôl cael eu brechu. Bydd y nyrs yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y paracetamol yn eich apwyntiad brechu.
Mae’n syniad da cael rhywfaint o hylif paracetamol babanod gartref cyn yr ymweliad brechu dau fis. Gallwch ei brynu o fferyllfeydd neu archfarchnadoedd lleol. Peidiwch byth â rhoi'r hylif paracetamol cryfder uwch a ddefnyddir ar gyfer plant hŷn i fabanod. Peidiwch byth â rhoi meddyginiaethau sy'n cynnwys aspirin i fabi.
Mae adweithiau eraill yn brin. I gael mwy o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, edrychwch ar: GIG 111 Cymru - Brechiadau (tudalen allanol) a Bexsero.
Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn MenB neu'r afiechydon y mae'n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Elusen blaenllaw yw'r Meningitis Research Foundation flaenllaw yn y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol sy’n dod â phobl ac arbenigedd at ei gilydd i drechu llid yr ymennydd a septisemia.
Elusen llid yr ymennydd genedlaethol yw Meningitis Now wedi'i lleoli yn y Deyrnas Unedig.