Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac mae’n bosibl na fydd y cynnwys hwnnw ar gael yn Gymraeg.
Ar y dudalen
Mae’r brechlyn MenACWY yn cael ei roi i’ch diogelu rhag clefyd meningococol.
Gall clefyd meningococol achosi llid yr ymennydd (chwydd yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a sepsis (adwaith sy'n peryglu bywyd i haint a all niweidio eich corff cyfan). Mae llid yr ymennydd a sepsis yn glefydau sy’n bygwth bywyd.
Gall meningitis daro unrhyw un, ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith babanod, plant ifanc, plant yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Gall achosi sepsis sy'n peryglu bywyd ac sy’n gallu arwain at niwed parhaol i'r ymennydd neu'r nerfau. Mae 12 grŵp hysbys o facteria meningococol. Mae clefyd meningococol yn cael ei achosi gan sawl grŵp o facteria meningococol. Grwpiau B, C, W ac Y yw’r rhai mwyaf cyffredin yn y DU.
Mae pawb mewn perygl o ddal clefyd meningococol, ond:
Mae pobl ifanc 13-14 oed (blwyddyn ysgol 9) yn cael cynnig y brechlyn MenACWY ochr yn ochr â'r pigiad atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc fel mater o drefn. Mae'r brechlynnau hyn ar gael am ddim gan y GIG fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio genedlaethol.
Mewn rhai ardaloedd, lle na fydd y brechlyn yn cael ei roi yn yr ysgol, byddwch yn cael eich gwahodd i’w gael yn eich practis meddygon teulu.
Efallai y bydd pobl ifanc a addysgir gartref neu nad ydynt mewn addysg brif ffrwd yn cael cynnig y brechlyn yn eu practis meddyg teulu neu ganolfan frechu gymunedol. Bydd angen i chi wneud apwyntiad pan fydd yn bryd i chi wneud hynny.
Mae’r rheiny sy’n gymwys i gael y brechlyn MenACWY hefyd yn cynnwys:
Os ydych yn anhwylus a bod gennych dymheredd ar ddiwrnod y brechlyn, mae'n well aros nes eich bod yn well cyn cael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i'ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad. Nid yw annwyd na mân anhwylder arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda'r unigolyn sy'n rhoi eich brechiad i chi.
Mae'n bwysig bod pobl ifanc a allai fod wedi methu'r brechlyn MenACWY yn ei gael cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn bwysig os ydynt yn bwriadu mynd i goleg neu brifysgol neu os ydynt eisoes mewn coleg neu brifysgol. Gall cymysgu'n agos mewn mannau cyfyng gyda llawer o bobl newydd gynyddu lledaeniad heintiau. Dyma'r cyfle perffaith i heintiau fel clefyd meningococol ledaenu.
Enwau brand y brechlynnau a ddefnyddir yn y DU yw MenQuadfi® (safle allanol, Saesneg yn unig), Menveo® (safle allanol, Saesneg yn unig) neu Nimenrix® (safle allanol, Saesneg yn unig).
Mae’r brechlyn MenACWY yn cael ei roi fel rheol fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.
Arweiniodd cyflwyno rhaglen frechu MenC ym 1999 at ostyngiad sylweddol mewn achosion o glefyd meningococol. Parhaodd hyn yn dilyn cyflwyno'r brechlyn MenACWY yn 2015, ac fe gafwyd gostyngiad pellach yn nifer yr achosion o glefyd MenC a chlefyd MenW.
Ym mis Gorffennaf 2025, rhoddwyd y gorau i roi'r brechlyn Hib/MenC i fabanod 12 mis oed. Felly, y brechlyn MenACWY, a roddir i bobl ifanc 13-14 oed, yw’r unig frechlyn sy'n cynnwys MenC yn yr amserlen reolaidd. Mae cynnal lefelau da o ran y nifer sy'n cael y brechlyn MenACWY yn bwysig er mwyn diogelu pobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys dal i fyny â brechiadau a fethwyd. Mae cael y brechlyn MenACWY hefyd yn rhoi imiwnedd torfol. Imiwnedd torfol yw pan y diogelir unigolion yn anuniongyrchol drwy leihau digwydded y clefyd ar draws y boblogaeth.
Mae’n dal yn bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn MenACWY. Mae hyn am nad oes unrhyw frechlyn yn 100% effeithiol ac mae bacteria eraill a all achosi'r anhwylderau hyn hefyd. Nid yw’r brechlyn MenACWY yn diogelu rhag clefyd Meningococol grŵp B. Mae’r brechiad yn erbyn clefyd MenB yn cael ei gynnig i fabanod.
I gael rhagor o wybodaeth am glefyd meningococol ac arwyddion a symptomau, ewch i:
Arwyddion a symptomau llid yr ymennydd | Meningitis Now (safle allanol, Saesneg yn unig)
GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Llid yr Ymennydd (safle allanol)
GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Sepsis (safle allanol)
Mae'r brechlyn MenACWY yn diogelu’n rhagorol rhag clefyd MenC yn ogystal â rhoi diogelwch ychwanegol rhag y grwpiau meningococol W, A ac Y eraill.
Mae pob un o’r brechlynnau a ddefnyddir yng Nghymru yn cael eu profi ar filoedd o bobl cyn iddynt gael eu cynnig i ni. Mae brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae'r brechlyn MenACWY yn bodloni'r holl safonau diogelwch a phan fydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, bydd ei ddiogelwch yn cael ei fonitro'n agos.
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae'r rhan fwyaf o’r sgîl-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau.
Mae'r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
Mae adroddiadau am yr holl sgîl-effeithiau i'w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau, ewch i medicines.org.uk/emc (safle allanol, Saesneg yn unig) a theipiwch enw'r brechlyn.
Os bydd symptomau eich plentyn yn gwaethygu neu os byddwch yn bryderus, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Dylech roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir ar-lein yn www.mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yh).
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Os hoffech ddysgu mwy am y brechlyn MenACWY neu'r clefydau y mae'n diogelu rhagddynt, mae adnoddau ar gael i’ch helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu siarad â'ch practis meddyg teulu neu’r nyrs ysgol am gyngor os oes gennych gwestiynau.
Mae Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd (safle allanol, Saesneg yn unig) yn elusen flaenllaw yn y DU, yn Iwerddon ac yn rhyngwladol sy'n dwyn pobl ac arbenigedd ynghyd i drechu llid yr ymennydd a sepsis.
Elusen genedlaethol llid yr ymennydd sydd wedi'i lleoli yn y Deyrnas Unedig yw Meningitis Now (safle allanol, Saesneg yn unig).