Cynnwys
- Gwybodaeth gyffredinol
- Epidemioleg
- Ffynonellau data gwyliadwriaeth ar gyfer Cymru
- Cyfraddau llid yr ymennydd a chlefyd meningococaidd yng Nghymru
- Canllawiau ar gyfer rheoli iechyd cyhoeddus clefyd meningococaidd
- Imiwneiddio rhag llid yr ymennydd
- Ceisiadau am ragor o ddata gwyliadwriaeth
- Dolenni i wyliadwriaeth llid yr ymennydd/clefyd meningococaidd arall
Mae llid yr ymennydd yn haint pilennau'r ymennydd, y pilennau sy'n gorchuddio'r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn. Gall gael ei achosi gan amrywiaeth o organebau gwahanol, gan gynnwys bacteria, feirysau a ffyngau. Mae ffurf lai cyffredin y clefyd, llid bacterol yr ymennydd, bob amser yn gysylltiedig â salwch difrifol a gall fod yn angheuol. Ar y llaw arall, mae llid feirysol yr ymennydd, sy'n gallu cael ei achosi gan sawl feirws gwahanol, yn fwy cyffredin ond fel arfer yn llai difrifol.
Yn y DU, achos mwyaf cyffredin llid bacterol yr ymennydd yw haint gyda'r bacteria meningococaidd (Neisseria menigitidis) er bod bacteria arall, gan gynnwys y rhai sy'n achosi clefyd niwmococol a thwbercwlosis, yn gallu achosi llid yr ymennydd.
Yn ogystal ag achosi llid yr ymennydd, gall haint â bacteria Neisseria meningitidis hefyd achosi septisemia meningococaidd (gwenwyn gwaed). Clefyd meningococaidd yw'r enw cyfunol a roddir i glefyd a achosir gan haint Neisseria meningitidis. Gall clefyd fod yn bresennol naill ai fel llid yr ymennydd meningococaidd neu septisemia meningococaidd neu fel y ddau gyda'i gilydd.
Mae bacteria meningococaidd wedi'u rhannu yn grwpiau sero penodol, yn ôl eu capsiwl allanol polysacarid. Y grwpiau sero mwyaf cyffredin sy'n achosi clefyd yn fyd-eang yw grwpiau B, C, A, Y ac W. Mae'r rhan fwyaf o glefyd meningococaidd yn y DU yn cael ei achosi gan grwpiau sero B ac C. Fodd bynnag, mae nifer yr achosion a achosir gan grŵp sero C wedi lleihau'n sylweddol yn y DU ers cyflwyno brechu rheolaidd yn 1999 yn y grwpiau oedran hynny a dargedwyd ar gyfer brechu. Mae brechiadau yn erbyn grwpiau sero A, Y ac W135 hefyd ar gael ac yn cael eu cynnig i deithwyr i rannau penodol o'r byd lle mae'r rhain yn gyffredin. Ym mis Ionawr 2013 cafodd Bexsero® (brechlynnau Novartis) ei drwyddedu i'w ddefnyddio a dyma'r brechlyn trwyddedig cyntaf sydd ar gael yn y DU rhag clefyd meningococaidd grŵp sero B. Mewn ymateb i gynnydd cyflym mewn achosion o glefyd grŵp meningococaidd W yn y DU, dechreuodd rhaglen sy'n cynnig brechlyn MenACWY i bob person ifanc 14-18 oed a dechreuwyr newydd yn y brifysgol o dan 25 oed ym mis Awst 2015.
Mae triniaeth frys gyda gwrthfiotigau a rheoli priodol yn yr ysbyty yn hanfodol i rywun sydd â chlefyd meningococaidd.
Mae llid yr ymennydd a chlefyd meningococaidd yn glefydau hysbysadwy yn y DU ac mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i unrhyw feddyg sy'n amau bod claf yn dioddef o'r naill neu'r llall roi gwybod amdanynt.
Mae rhagor o wybodaeth am lid yr ymennydd a chlefyd meningococaidd ar gael o'r canlynol:
Gwybodaeth gyffredinol am lid yr ymennydd o brif wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Galw Iechyd Cymru Ar-lein
Meningitis Now
Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd
Mae'r rhan fwyaf o heintiau meningococaidd yn digwydd mewn babanod sy'n llai na phump oed, gyda'r nifer uchaf yr achosion yn y rhai o dan 1 oed. Mae uchafbwynt llai, eilaidd o ran achosion ymhlith oedolion iau rhwng 15 ac 19 oed.
Mae'r rhan fwyaf o achosion o glefyd meningococaidd yn digwydd yn achlysurol, gyda llai na 5% o achosion yn digwydd mewn clystyrau. Mae achosion o glefyd meningococaidd yn fwy cyffredin ymhlith plant yn eu harddegau ac oedolion ifanc, ac mae achosion wedi'u cofnodi mewn ysgolion a phrifysgolion. Gall ymyriadau iechyd cyhoeddus gynnwys brechu (yn dibynnu ar y grŵp sero) a chemoproffylacsis.
Mae clefyd meningococaidd yn dangos amrywiad tymhorol amlwg gydag uchafbwynt yn y gaeaf a lefel isel yn yr haf. Mae tymor y gaeaf yn cyd-daro'n fras â'r ffliw.
Yn y 50 mlynedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf o glefyd menigococaidd yn y DU wedi bod o ganlyniad grŵp B (MenB) a grŵp C (MenC). Mae'r brechlyn MenC a gyflwynwyd yn 1999 bellach wedi llwyddo i leihau achosion i lond llaw yn unig bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae MenB yn cyfrif am y mwyafrif llethol o glefyd meningococaidd.
Mae gan glefyd meningococaidd gyfradd marwolaethau achos o tua 10%.
Mae epidemioleg llid yr ymennydd oherwydd organebau eraill yn fwy cymhleth i'w ganfod. Mae achosion o lid yr ymennydd sy'n deillio o haint feirws y frech goch, clwy'r pennau neu facteria Haemophililus influeanzae B wedi gostwng ers cyflwyno brechu arferol yn ystod plentyndod yn erbyn y clefydau hyn.
Ar ôl clefyd meningococaidd, haint ymledol gyda'r bacteriwm Streptococcus pneumoniae (a elwir yn niwmococws hefyd) yw un o'r achosion mwyaf cyffredin a adroddir o facteremia (h.y. gwenwyn gwaed) a llid yr ymennydd-gweler Clefyd meningococaidd:achosion a gadarnhawyd gan labordy yn Lloegr ers 2020 i 2021.
Argymhellir cyflwyno brechu yn erbyn sawl seroteip niwmococws sy'n arbennig o gysylltiedig ag achosi clefyd ymledol i'r rhai dros 65 oed, unigolion mewn grŵp risg uchel ar gyfer haint ac ar gyfer pob plentyn (fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio arferol yn ystod plentyndod ers 2006). Mae data ar nifer yr achosion o glefyd niwmococol ymledol, gan gynnwys llid yr ymennydd, ers cyflwyno brechu niwmococws arferol i blant yn y DU, ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Mae’n ofyniad statudol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i hysbysu am bob achos o lid yr ymennydd sydd wedi'i ddiagnosio'n glinigol, p'un a yw wedi'i gadarnhau'n ficrobiolegol ai peidio. Daeth y gofyniad statudol hwn i hysbysu am glefydau heintus penodol i fodolaeth ym 1891 ac mae'n cynnwys pob math o lid yr ymennydd (beth bynnag fo'r achos). Rhaid rhoi gwybod hefyd am bob achos o septisemia meningococaidd a gafodd ddiagnosis clinigol.
Lle bynnag y bo modd, mae hysbysiadau llid yr ymennydd yn cael eu his-gategoreiddio h.y. meningococaidd, niwmococol, Haemophilus influenzae, feirysol, penodol ac amhenodol arall.
Prif ddiben y system hysbysu yw cyflymder o ran canfod achosion ac epidemigau posibl. Mae cywirdeb diagnosis yn eilaidd ac ers 1968 amheuaeth glinigol o haint hysbysadwy yw'r unig beth sy'n ofynnol. Os bydd diagnosis o lid yr ymennydd yn profi'n anghywir yn ddiweddarach, dylid ei ddadhysbysu.
Gyda'r system hysbysu, mae'n anodd nodi'n gywir ffurflenni dyblyg a geir gan fwy nag un meddyg sy'n ymwneud â rheoli'r un achos digwyddiad, ac i eithrio'n llwyr drwy ddadhysbysu yr achosion sydd wedi'u diagnosio'n anghywir fel llid yr ymennydd neu eu his-gategoreiddio'n anghywir. Felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau mewn hysbysiadau llid yr ymennydd.
Mae dros 50% o achosion o glefyd meningococaidd yn achosion 'a gadarnhawyd gan labordy'. Mae'r rhain yn achosion lle mae sampl, fel arfer o waed neu hylif asgwrn cefn, yn cael ei chymryd oddi wrth y claf sâl ac mae profion mewn labordy yn nodi presenoldeb bacteria meningococaidd, neu DNA o'r bacteria hynny. Yn ogystal, gall profion pellach gadarnhau pa grŵp sero o facteria meningococaidd sy'n gyfrifol am glefyd.
Fodd bynnag, bob blwyddyn ceir nifer o achosion o glefyd meningococaidd nad ydynt wedi'u cadarnhau yn y labordy. Mae'r rhain yn achosion lle mae'n amlwg bod gan y claf symptomau'r clefyd ac yn cael diagnosis ar sail y symptomau hyn ond nid oes cadarnhad o brofion labordy naill ai am nad yw'n bosibl cymryd sampl neu oherwydd bod triniaeth wedi dechrau cyn y gellir cymryd sampl (sydd wrth gwrs yn lladd yr organebau heintus).
Ni fydd yr achosion heb eu cadarnhau yn cael eu cyfrif yn y data ar achosion o glefydau a gadarnhawyd gan labordy.Fodd bynnag, maent yn cynrychioli baich clefyd sylweddol.
Nifer yr hysbysiadau o septisemia meningococaidd, cyfanswm llid yr ymennydd a math penodol o lid yr ymennydd yng Nghymru: 1999-2023
Ffynhonnell: Hysbysiadau Statudol o Glefydau Heintus (NOIDS) ar gyfer Cymru a Lloegr
Nifer yr hysbysiadau o septisemia meningococaidd, cyfanswm llid yr ymennydd a math penodol o lid yr ymennydd yng Nghymru: 1999-2023
Blwyddyn |
Hysbysiadau o |
Hysbysiadau o lid yr ymennydd |
||||||
Cyfanswm |
Meningococaidd |
Niwmococol |
Haemophilus influenzae |
Feirysol |
Arall |
Amhenodol |
||
1999 |
321 |
182 |
83 |
34 |
6 |
34 |
13 |
12 |
2000 |
237 |
234 |
106 |
23 |
4 |
67 |
16 |
18 |
2001 |
136 |
192 |
55 |
16 |
8 |
54 |
22 |
37 |
2002 |
94 |
96 |
38 |
10 |
3 |
14 |
17 |
14 |
2003 |
68 |
85 |
28 |
9 |
3 |
14 |
10 |
21 |
2004 |
73 |
81 |
29 |
4 |
1 |
8 |
21 |
18 |
2005 |
85 |
110 |
26 |
18 |
2 |
18 |
25 |
21 |
2006 |
81 |
88 |
35 |
9 |
7 |
15 |
13 |
9 |
2007 |
51 |
52 |
24 |
5 |
0 |
19 |
4 |
0 |
2008 |
49 |
71 |
27 |
12 |
1 |
18 |
8 |
5 |
2009 |
49 |
77 |
34 |
17 |
1 |
17 |
7 |
1 |
2010 |
34 |
50 |
20 |
9 |
0 |
13 |
7 |
1 |
2011 |
37 |
57 |
21 |
9 |
3 |
12 |
3 |
9 |
2012 |
28 |
76 |
26 |
5 |
5 |
32 |
7 |
1 |
2013 | 25 | 150 | 18 | 13 | 6 | 84 | 11 | 18 |
2014 | 34 | 52 | 6 | 15 | 1 | 17 | 3 | 10 |
2015 | 22 | 90 | 13 | 19 | 1 | 31 | 2 | 24 |
2016 | 36 | 81 | 3 | 17 | 2 | 32 | 6 | 21 |
2017 | 28 | 116 | 2 | 21 | 0 | 38 | 3 | 52 |
2018 | 19 | 101 | 2 | 17 | 2 | 29 | 10 | 41 |
2019 | 22 | 96 | 4 | 26 | 1 | 28 | 1 | 36 |
2020 | 13 | 49 | 4 | 5 | 1 | 18 | 0 | 21 |
2021 | 6 | 30 | 4 | 5 | 0 | 8 | 0 | 13 |
2022 | 11 | 50 | 0 | 3 | 0 | 10 | 6 | 31 |
2023 | 16 | 49 | 2 | 5 | 0 | 9 | 0 | 33 |
Ffynhonnell: Hysbysiadau Statudol o Glefydau Heintus (NOIDS) ar gyfer Cymru a Lloegr
Nifer yr adroddiadau labordy o Neisseria meningitidis yn ôl grŵp sero yng Nghymru 2010-2023
Ffynhonnell: data wedi'u cysoni o achosion a gadarnhawyd gan labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru IBID ac Uned Gyfeirio Meningococaidd Iechyd Cyhoeddus Lloegr
Nifer yr adroddiadau labordy o Neisseria meningitidis yn ôl grŵp sero yng Nghymru 2010-2023
Blwyddyn |
Grŵp B |
Grŵp C | Grŵp W | Grŵp Y | Ddim ar gael | Cyfanswm |
2010 | 74 | 1 | 0 | 3 | 2 | 80 |
2011 | 61 | 1 | 3 | 6 | 2 | 73 |
2012 | 67 | 0 | 4 | 2 | 0 | 73 |
2013 | 50 | 0 | 2 | 1 | 0 | 53 |
2014 | 35 | 2 | 2 | 7 | 0 | 46 |
2015 | 24 | 1 | 11 | 4 | 1 | 41 |
2016 | 33 | 0 | 4 | 6 | 1 | 44 |
2017 | 16 | 6 | 14 | 7 | 0 | 43 |
2018 | 17 | 4 | 7 | 0 | 1 | 29 |
2019 | 17 | 2 | 7 | 4 | 4 | 35 |
2020 | 14 | 1 | 4 | 1 | 0 | 20 |
2021 | 2 | 0 | 0 | 0 | 1 | 3 |
2022 | 11 | 1 | 1 | 0 | 4 | 17 |
2023 | 21 | 1 | 1 | 1 | 5 | 29 |
Ffynhonnell: data wedi'u cysoni o achosion a gadarnhawyd gan labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru IBID ac Uned Gyfeirio Meningococaidd Iechyd Cyhoeddus Lloegr
Mae hyn ar gael o wefan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Mae brechlynnau ar gael yn erbyn rhai mathau penodol o lid yr ymennydd bacterol ac fe'u rhoddir fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio arferol yn ystod plentyndod. Y rhain yw grwpiau meningococci A,B, W, Y ac C, niwmococol a Haemophilus influenzae (HiB), sydd hefyd yn gallu achosi llid yr ymennydd.
Yn ogystal, mae brechu rhag rhai clefydau eraill, fel clwy'r pennau a'r frech goch sy'n gallu achosi llid yr ymennydd, hefyd yn rhan o'r amserlen imiwneiddio yn ystod plentyndod.
Cafodd brechlyn yn erbyn clefyd grŵp B meningococaidd (brechlyn MenB), ei gyflwyno yn y DU ym mis Medi 2015, bydd plant sy'n cael eu geni ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2015 yn cael cynnig tri dos o'r brechlyn yn ddau, pedwar a 12-13 mis oed.
Ceir rhagor o wybodaeth am frechlyn a rhaglen meningococaidd B ar wefan Galw Iechyd Cymru.
Rhoddir brechiad yn erbyn grŵp meningococaidd C i blant gyda phigiad atgyfnerthu yn 12-13 mis fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio arferol yn ystod plentyndod.
Mewn ymateb i gynnydd cyflym mewn achosion o glefyd grŵp meningococaidd W yn y DU, dechreuodd rhaglen sy'n cynnig brechlyn MenACWY i bob person ifanc 14-18 oed a dechreuwyr newydd yn y brifysgol o dan 25 oed ym mis Awst 2015.
Bydd y rhai sy'n gymwys yn cael cynnig y brechlyn mewn sesiynau brechu yn yr ysgol neu drwy eu meddyg teulu. Ceir rhagor o wybodaeth am frechlyn a rhaglen MenACWY ar wefan Galw Iechyd Cymru.
Mae brechlyn MenACWY hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer teithio neu i'r rhai sy'n mynd i breswylio dramor neu unigolion ag asplenia, camweithrediad y ddueg, y rhai ag imiwnedd gwan neu ddiffyg ategion.
Os oes angen rhagor o ddata gwyliadwriaeth ar gyfer llid yr ymennydd a chlefyd meningococaidd yng Nghymru, efallai y bydd yn bosibl eu darparu ar gais arbennig gan ddefnyddio'r ffurflen gais am ddata gwyliadwriaeth.
Iechyd Cyhoeddus Lloegr
Diogelu Iechyd yr Alban
Canolfan Gwyliadwriaeth Diogelu Iechyd (Iwerddon)
Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC)-USA