Ar y dudalen hon
Mae'r eryr (a elwir hefyd yn herpes zoster) yn haint ar y nerf a'r croen o'i gwmpas. Mae'r un firws sy'n achosi brech yr ieir yn achosi'r eryr. Yn wahanol i glefydau heintus eraill, nid ydych yn ei ddal gan rywun arall.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael brech yr ieir pan fyddant yn ifanc. Gall y firws sy'n achosi brech yr ieir aros yn eich corff am weddill eich oes heb i chi wybod ei fod yno. Fodd bynnag, gall ddod yn actif eto yn ddiweddarach mewn bywyd. Nid yw'n glir pam mae hyn yn digwydd, ond mae'n aml yn gysylltiedig â system imiwnedd wan a achosir gan heneiddio, salwch, straen neu feddyginiaeth.
I archebu copïau o'r taflenni hyn, ewch i'r dudalen Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.