Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch

Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, ac mae’n bosibl y bydd rhai babanod yn parhau i gael RSV er bod eu mamau wedi cael y brechlyn. Fodd bynnag, i'r rhan fwyaf o fabanod sy'n cael eu geni i famau sydd wedi'u brechu, dylai unrhyw haint RSV fod yn llai difrifol. 

Pan fydd yn cael ei roi yn ystod beichiogrwydd, canfuwyd bod y brechlyn RSV yn effeithiol iawn wrth atal RSV. Mae'n lleihau'r risg o bronciolitis difrifol o 70% yn ystod chwe mis cyntaf bywyd. Ar ôl yr oedran hwn mae eich baban mewn perygl llawer is o RSV difrifol. 

Mae'n bwysig o hyd i wybod arwyddion a symptomau RSV, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn.  

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am arwyddion a symptomau salwch a achosir gan RSV ar  

GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Bronciolitis (safle allanol, Saesneg yn unig) 

GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Niwmonia (safle allanol) 

GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Haint clust (safle allanol) 

GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Crŵp (safle allanol, Saesneg yn unig)