Mae feirws syncytiol anadlol (RSV) yn achos cyffredin heintiau'r llwybr anadlol. I’r rhan fwyaf o oedolion, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, ac fel arfer mae’n gwella ar ei ben ei hun.
Mewn nifer fach o oedolion hŷn, gall haint RSV arwain at broblemau iechyd difrifol fel niwmonia (haint yr ysgyfaint) neu hyd yn oed farwolaeth. Mae pobl sydd â chlefyd y galon neu’r ysgyfaint, neu system imiwnedd wan, yn wynebu risg uwch.
Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi cael RSV pan oeddent yn blant, ond efallai na fydd haint yn y gorffennol yn eich atal rhag cael RSV eto.
Ffaith: Cyn i’r rhaglen frechu rhag RSV ddechrau, y gred oedd bod RSV yn achosi tua 400 i 600 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru mewn pobl 75 mlwydd oed neu hŷn.
Er bod y rhan fwyaf o achosion RSV yn digwydd yn yr hydref a’r gaeaf, gallwch gael y brechiad RSV ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae'r brechlyn RSV yn ddiogel. Mae'n bodloni'r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro.
Helpwch i amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol o RSV drwy gael y brechiad RSV pan gaiff ei gynnig i chi.