Mae gwyliadwriaeth o gydraddoldeb a chanran y rhai sy'n manteisio ar frechiadau rheolaidd i blant yng Nghymru yn cael ei chynnal gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy gynllun cenedlaethol COVER (Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau) yng Nghymru.
Cyhoeddir adroddiadau COVER yn chwarterol, gan grynhoi canran y rhai sy'n cael eu brechu ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau sy'n cyrraedd penblwyddi allweddol yn ystod y cyfnodau canlynol:
Mae adroddiad COVER blynyddol yn cael ei lunio, gan grynhoi cwmpas brechiadau i blant sy'n cyrraedd penblwyddi allweddol yn ystod y cyfnod 12 mis o fis Ebrill i fis Mawrth. Mae tueddiadau mewn anghydraddoldebau o ran cwmpas, yn ôl lefel amddifadedd economaidd-gymdeithasol hefyd yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.
Cyhoeddir adroddiadau chwarterol o fewn 8 wythnos i ddiwedd y chwarter adrodd. Cyhoeddir adroddiadau blynyddol o fewn 12 wythnos i ddiwedd y flwyddyn adrodd.
Mae adroddiadau gwyliadwriaeth ar yr heintiau y mae brechiadau rheolaidd i blant yn amddiffyn yn eu herbyn ar gael o: https://icc.gig.cymru/data/
Mae'r adroddiad COVER chwarterol diweddaraf yn crynhoi canran y rhai sy'n cael eu himiwneiddio ymhlith plant yng Nghymru sy'n cyrraedd penblwyddi allweddol rhwng 01/04/2024 a 30/06/2024.
Oedran | Imiwneiddio | Canran y rhai a fanteisiodd ar imiwneiddio (%) |
1 oed | Prif 6 mewn 1 (3ydd dos) | 94.1 |
MenB (2il ddos) | 93.7 | |
Prif Rotafeirws (2il ddos) | 92.1 | |
Prif PCV (dos 1af) | 95.7 | |
2 oed | MMR (dos 1af) | 93.5 |
PCV (dos terfynol (3ydd)) | 93.2 | |
MenB (3ydd dos) | 92.8 | |
Pigiad atgyfnerthu Hib/MenC | 92.8 | |
4 oed | Wedi cael yr holl imiwneiddio rheolaidd | 85.7 |
5 oed | MMR (2il ddos) | 89.6 |
Pigiad atgyfnerthu 4 mewn 1 cyn ysgol | 89.4 | |
Wedi cael yr holl imiwneiddio rheolaidd | 87.7 | |
Blwyddyn ysgol 8 | Brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) (un dos) | 69.4 |
Blwyddyn ysgol 9 | Brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) (un dos) | 71.9 |
MenACWY | 70.8 | |
Pigiad atgyfnerthu Td/IPV yn ystod yr arddegau | 70.9 | |
Blwyddyn ysgol 10 | Pigiad atgyfnerthu Td/IPV yn ystod yr arddegau | 71.3 |
MMR (1 dos) | 95.7 | |
MMR (2 ddos) | 93.1 | |
Blwyddyn ysgol 11 | MMR (1 dos) | 95.7 |
MMR (2 ddos) | 93.0 |
Mae gwybodaeth gyffredinol am y clefydau y mae pob brechlyn yn rhoi amddiffyniad yn eu herbyn ar gael o: https://111.wales.nhs.uk/livewell/vaccinations/default.aspx?locale=cy&term=A
Rhoddir mapiau sy'n nodi canran y rhai sydd wedi cael y brechlyn 6 mewn 1 erbyn un oed a chael y brechiad MMR1 yn ddwy oed ymhlith plant sy'n byw yn y bwrdd iechyd ar gyfer y chwarter diweddaraf isod:
Canran y rhai sydd wedi cael 6 mewn 1 erbyn 1 oed | Canran y rhai sydd wedi cael 1 dos o'r MMR erbyn 2 oed |
Mae'r siart tueddiadau isod, yn dangos canran y rhai sydd wedi cael imiwneiddio rheolaidd dethol i blant sy'n byw yng Nghymru, fel yr adroddwyd yn adroddiadau Chwarterol COVER Iechyd Cyhoeddus Cymru o 1997. Cyflwynir canran y rhai sydd wedi cael brechiadau yn erbyn difftheria, tetanws, pertwsis, Hib, MenC a PCV2 ar gyfer plant blwydd oed. Cyflwynir canran y rhai a gafodd ddos cyntaf o MMR a'r Hib/MenC ar gyfer plant dwy oed. Cyflwynir canran y rhai a gafodd ail ddos o MMR ar gyfer plant pump oed.
BIP Aneurin Bevan
BIP Betsi Cadwaladr
BIP Caerdydd a'r Fro
BIP Cwm Taf Morgannwg
BIP Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
BIP Bae Abertawe
Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf COVER yn crynhoi canran y rhai sy'n cael eu himiwneiddio mewn plant yng Nghymru sy'n cyrraedd penblwyddi allweddol rhwng 01/04/2022 a 31/03/2023.
Ffeithlun cryno adroddiad 2022/23:
Mae Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal gwyliadwriaeth ar gyfer anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol a daearyddol (ar lefel awdurdod lleol) o ran canran y rhai sy'n manteisio ar imiwneiddio rheolaidd i blant. Mae'r adroddiadau blynyddol yn cynnwys data ychwanegol sy'n benodol i fyrddau iechyd mewn atodiadau.
Lawrlwythwch yr adroddiad diweddaraf:
Anghydraddoldebau o ran canran y rhai sy'n manteisio ar imiwneiddio i blant Adroddiad Blynyddol 2022 - 23
Adroddiadau blaenorol:
Anghydraddoldebau o ran canran y rhai sy'n manteisio ar imiwneiddio i blant Adroddiad Blynyddol 2021 - 22
Anghydraddoldebau o ran canran y rhai sy'n manteisio ar imiwneiddio i blant Adroddiad Blynyddol 2020 - 21
Anghydraddoldebau o ran canran y rhai sy'n manteisio ar imiwneiddio i blant Adroddiad Blynyddol 2018 -19
Anghydraddoldebau o ran canran y rhai sy'n manteisio ar imiwneiddio i blant Adroddiad Blynyddol 2017-18
Mae adroddiadau COVER chwarterol a blynyddol blaenorol ar gael yma.