Mae'r holl wybodaeth yn gywir ar adeg ei chyhoeddi.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2025
Ar y dudalen hon
Mae'r eryr (a elwir hefyd yn herpes zoster) yn haint ar nerf a'r croen o'i gwmpas. Mae’n cael ei achosi gan yr un feirws ag sy'n achosi brech yr ieir. Yn wahanol i glefydau heintus eraill, ni allwch ddal yr eryr gan rywun arall – ddim gan rywun sydd â'r frech goch hyd yn oed.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael brech yr ieir pan fyddant yn ifanc. Gall y firws sy'n achosi brech yr ieir aros yn eich corff am weddill eich oes heb i chi wybod ei fod yno. Fodd bynnag, gall ddod yn actif eto yn ddiweddarach mewn bywyd. Nid yw'n glir pam mae hyn yn digwydd, ond mae'n aml yn gysylltiedig â system imiwnedd wan a achosir gan heneiddio, salwch, straen neu feddyginiaeth.