Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Clefyd niwmococol yw'r enw ar grŵp o heintiau a achosir gan germ o'r enw niwmococws. Gall yr heintiau hyn fod yn ysgafn, fel heintiau sinws neu haint yn y glust, ond mae rhai yn ddifrifol iawn ac yn gallu arwain at:  

  • Niwmonia – haint yn eich ysgyfaint  

  • Sepsis – ymateb i haint sy'n peryglu bywyd ac yn gallu niweidio'ch corff cyfan  

  • Llid yr ymennydd – chwydd o amgylch eich ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, sy’n gallu achosi problemau iechyd hirdymor neu farwolaeth  

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau heintiau niwmococol, ewch i Heintiau niwmococol | NHS inform (safle allanol, Saesneg yn unig)  

Mae gan bobl 65 oed neu’n hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd penodol siawns uwch o fynd yn sâl o ganlyniad i haint niwmococol. Maent yn fwy tebygol o gael problemau iechyd difrifol hirdymor a gallant hyd yn oed farw. Cynigir brechiad niwmococol am ddim i'r bobl hyn drwy'r GIG. 

Mae'r brechlyn yn ddiogel a gall helpu i’ch amddiffyn chi rhag rhai o'r  mathau mwy difrifol o heintiau niwmococol. 

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn


 

Am y brechlyn



Diogelwch ac effeithiolrwydd 


 

Adnoddau



Mwy o wybodaeth 

Heintiau niwmococol | NHS inform (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Haint Niwmococol | Vaccine Knowledge Project (safle allanol, Saesneg yn unig)