Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn Meningococol B (MenB) ar gyfer gonoroea

Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae gonoroea yn haint a all ledaenu yn ystod gweithgarwch rhywiol heb gondom.  

Mae brechlyn ar gael i helpu i amddiffyn rhag gonoroea. Yng Nghymru, mae'r GIG yn cynnig y brechlyn fesul achos i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM). 

Efallai y bydd pobl eraill hefyd yn gymwys i gael y brechlyn, yn seiliedig ar gyngor gan weithiwr proffesiynol iechyd rhywiol. 

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn os ydych:  

  • wedi cael haint bacteriol o ganlyniad i ryw, fel clamydia neu gonoroea, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu  
  • wedi cael pump neu fwy o bartneriaid rhywiol yn ystod y tri mis diwethaf. 

Gall y brechlyn helpu i leihau eich siawns o gael gonoroea ond ni fydd yn dileu'r risg yn llwyr. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn rhag heintiau difrifol eraill, fel llid yr ymennydd (haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a septisemia (gwenwyn y gwaed). 

Gweithredu: Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl, siaradwch â'ch gwasanaeth iechyd rhywiol.  

Gallwch ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol)  

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

 

Am y brechlyn 

 

Diogelwch ac effeithiolrwydd

 

Adnoddau

Gweler y dolenni isod os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn 4CMenB neu'r clefydau y mae'n amddiffyn yn eu herbyn.   

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau. 

 

Rhagor o wybodaeth

GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y Gonorrhoea (safle allanol)  

Iechyd Rhywiol Cymru | Cyngor a Phrofion am Heintiau STI (safle allanol) 

Gonorrhoea (Neisseria gonorrhoeae infection) - WHO (safle allanol, Saesneg yn unig)