Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Ar y dudalen hon
Brechu yw un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol. Mae’r brechlyn 4-mewn-1 yn helpu i amddiffyn rhag:
difftheria
tetanws
pertwsis (y pas), a
polio.
Cyn brechlynnau, roedd llawer o blant yn y DU yn dal y clefydau hyn bob blwyddyn. Mae brechu wedi lleihau nifer yr achosion hyn ac wedi achub llawer o fywydau.
Mae'r brechlyn 4 mewn 1 (a elwir hefyd yn frechlyn dTaP/IPV) yn rhoi hwb i'r amddiffyniad gan y brechlynnau 6 mewn 1 a gawsant pan oeddent yn fabanod (yn cynnwys amddiffyniad rhag difftheria, tetanws, y pas, polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B).
Gall yr amddiffyniad gan frechiadau babanod bylu dros amser, felly mae'n bwysig bod eich plentyn yn cael ei frechlyn 4 mewn 1.
Mae'r brechlyn 4 mewn 1 yn helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn helpu i amddiffyn cymunedau rhag y clefydau hyn a'r cymhlethdodau iechyd difrifol y gallant eu hachosi.
Mae difftheria yn glefyd difrifol sydd fel arfer yn dechrau gyda dolur gwddf a thymheredd uwch (twymyn). Gall arwain yn fuan wedyn at broblemau anadlu a gall niweidio'r galon a'r system nerfol. Mewn achosion difrifol, gall achosi marwolaeth. Mae difftheria yn lledaenu drwy beswch a thisian neu drwy gysylltiad agos â pherson heintiedig.
Mae difftheria yn anghyffredin yn y DU. Fodd bynnag, mae'n bosibl ei ddal wrth deithio i wledydd eraill.
Cyn i’r brechlyn difftheria gael ei gyflwyno yn y DU, roedd hyd at 70,000 o achosion o ddifftheria a hyd at 5,000 o farwolaethau’r flwyddyn.
Gorchudd llwyd-gwyn trwchus a all orchuddio cefn eich gwddf, trwyn a thafod
Tymheredd uchel (twymyn)
Dolur gwddf
Chwarennau chwyddedig yn eich gwddf
Anhawster anadlu a llyncu
Mewn rhai gwledydd, mae haint y croen (difftheria croenol) yn fwy cyffredin.
Gall difftheria croenol achosi:
pothelli llawn crawn ar eich coesau, eich traed a’ch dwylo, ac
wlserau mawr wedi'u hamgylchynu gan groen coch, â golwg dolurus.
Mae tetanws yn glefyd sy'n effeithio ar nerfau'r corff, gan achosi sbasmau cyhyrau a phroblemau anadlu. Mae'n glefyd difrifol a all arwain at broblemau iechyd difrifol os na chaiff ei drin yn gyflym. Mae'n cael ei achosi pan fydd germau a geir mewn pridd neu dail yn mynd i mewn i'r corff trwy friwiau agored neu losgiadau. Ni all tetanws ledaenu o berson i berson.
Anhyblygrwydd yn eich cyhyrau gên (genglo), a all ei gwneud hi'n anodd i chi agor eich ceg
Sbasmau cyhyr poenus, a all ei gwneud yn anodd anadlu a llyncu
Tymheredd uchel
Chwysu
Curiad calon cyflym
Mae pertwsis, a adwaenir yn fwy cyffredin fel y pâs, yn haint sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu. Mae symptomau'n tueddu i ddatblygu fesul cam, gan ddechrau gyda symptomau ysgafn, tebyg i annwyd. Gall symptomau mwy difrifol ddatblygu ar ôl y rhain, cyn i’r claf wella. Mae'r pâs yn lledaenu'n hawdd trwy anadlu defnynnau bach iawn sy'n cael eu rhyddhau i'r awyr pan fydd pobl â'r afiechyd yn pesychu neu'n tisian.
Gall y pâs achosi pyliau hir o beswch a thagu, sy'n ei gwneud hi'n anodd anadlu. Mae'r sŵn 'wwp' yn cael ei achosi wrth dynnu’r anadl ar ôl pob cyfnod o beswch. Nid yw babanod ifanc bob amser yn gwneud hyn, a all ei gwneud yn anodd adnabod y clefyd.
Gall symptomau'r pas bara am ddau i dri mis. Babanod o dan flwydd oed sy’n wynebu'r risg fwyaf o salwch difrifol ac sydd mewn perygl o farw o'r afiechyd.
Cyn i'r brechlyn pas gael ei gyflwyno, roedd 120,000 o achosion a amheuir yn cael eu hadrodd bob blwyddyn ar gyfartaledd yn y DU. Yn y flwyddyn cyn i'r brechlyn gael ei gyflwyno, bu farw 92 o blant.
Mae arwyddion cyntaf y pâs yn debyg i symptomau annwyd.
Ar ôl tua wythnos, byddwch yn sylwi:
pyliau o beswch sy'n para am rai munudau ac sy'n waeth yn y nos
sain ‘wwp’, fel petaech chi’n chwipio am anadl rhwng peswch (efallai na fydd babanod ifanc ac oedolion yn gwneud y sŵn hwn), neu
fwcws trwchus, a all achosi salwch (chwydu).
Mae polio yn feirws a all effeithio ar eich system nerfol. Gall achosi gwendid parhaol yn y cyhyrau, fel arfer yn y coesau. Os yw polio’n effeithio ar gyhyrau'r frest neu'r ymennydd, gall arwain at broblemau iechyd difrifol iawn.
Gallwch ddal polio os byddwch yn dod i gysylltiad â baw rhywun sydd â’r haint, neu drwy anadlu defnynnau pan fydd yn peswch neu’n tisian. Ym 1988, parlysodd polio fwy na 1000 o blant ledled y byd bob dydd.
Cyn i'r brechlyn polio gael ei gyflwyno, roedd cynifer ag 8,000 o achosion o bolio yn y DU. Diolch i lwyddiant parhaus y brechlyn polio, nid yw'r DU wedi gweld haint polio naturiol mewn mwy na 40 mlynedd. Adroddwyd am yr achos olaf yn 1984. Dyna pam ei bod yn bwysig brechu er mwyn atal clefydau fel polio rhag dod yn ôl.
Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl unrhyw symptomau.
Mae rhai pobl yn cael symptomau ysgafn, tebyg i ffliw, fel:
tymheredd uchel
blinder eithafol (lludded)
pen tost/cur pen
cyfogi (chwydu)
gwddf stiff, a
phoen yn y cyhyrau.
Yn anaml, gall polio arwain at symptomau mwy difrifol sy'n effeithio ar yr ymennydd a'r nerfau, fel gwendid yn eich cyhyrau (parlys), fel arfer yn y coesau. Gall hyn ddigwydd dros oriau neu ddiwrnodau.
Os yw'r parlys yn effeithio ar y cyhyrau a ddefnyddir ar gyfer anadlu, gall beryglu bywyd.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella a bydd symudiad yn dod yn ôl yn araf dros yr ychydig wythnosau nesaf. Gall rhai pobl gael eu gadael ag anabledd parhaol.
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn neu'r clefydau y mae'n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.