'Mae ein Huwch Dîm Arwain yn cerdded miloedd o gamau y dydd yn yr ysgol.'
Dywedodd Mrs Prosser, Pennaeth yr Ysgol fod yr Uwch Dîm Arwain yn cerdded miloedd o gamau y dydd. Pam? At yr unig ddiben o feithrin diwylliant o fod yn bresennol gyda’u staff a’r mwy na 1000 o bobl ifanc yn Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri, Bro Morgannwg.
Dywedodd Mrs Prosser fod ethos yr ysgol 'yn ymwneud â sut yr ydym yn trin ein disgyblion; gyda gwên, anogaeth a bod yn falch iawn o fod gyda nhw'. Ystyrir yr athrawon a'r cynorthwywyr addysgu fel yr ymyriad. Maent yn modelu perthnasoedd iach. Maent yn gweithio’n galed gyda'i gilydd ac maent yn dîm o staff sy’n cael ei arwain yn dda. Mae’r disgyblion yn eu hystyried i gyd yn 'oedolion y gellir ymddiried ynddynt'. Maent yn siarad â'i gilydd yn hytrach na defnyddio e-bost. Gwerthfawrogir pob aelod o staff.
Mae'r ysgol yn gweithio'n galed i achub y blaen ar faterion a allai godi ac mae’n darparu’n fanwl ar gyfer disgyblion ag anghenion ychwanegol. Mae Grŵp Tegwch y disgyblion yn gwirio am gynhwysiant. Mae'r Clwb Pobi yn rhoi ei elw i elusen. Dysgir sgiliau bywyd. Mae'r ysgol yn rhagweladwy ac wedi’i threfnu i ddarparu diogelwch i bawb. Gweithredir ar arolygon y mae disgyblion, staff, a rhieni yn eu hateb. Mae 'Pilot' a 'Daisy', cŵn yr ysgol, yn cymryd rhan gyda phawb hefyd!
'Fel yr Arweinydd Lles dynodedig, mae’r rhaglen waith Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol wedi fy helpu i lywio’r ffordd rwy’n meddwl. Nid yw'n ymarfer ticio blychau i ni. Mae’n gymaint mwy na chynllun gweithredu. Mae lles wrth wraidd popeth a wnawn'.