Neidio i'r prif gynnwy

Materion a Risgiau

Materion

Bydd y gofrestr materion yn amlinellu manylion yr holl faterion (problemau sydd eisoes wedi codi) a nodwyd sy'n effeithio'n negyddol ar waith y rhaglen ddatgarboneiddio a chynlluniau i'w datrys. Bydd adolygiad o'r gofrestr materion yn cael ei gynnal yng nghyfarfodydd y Grŵp Gweithredu Datgarboneiddio a bydd materion a nodwyd fel rhai difrifol mewn perthynas ag effaith yn cael eu huwchgyfeirio i Fwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd i'w hadolygu.

Mater Mesurau Lliniaru
Oherwydd natur ein hystâd ledled Cymru, 
mae opsiynau cyfyngedig i fuddsoddi 
mewn seilwaith datgarboneiddio ac i 
ddylanwadu ar gyflenwad ynni. Mae hyn 
oherwydd bod llawer o’r ystâd yn cael ei 
phrydlesu neu ei rheoli gan fyrddau iechyd.
  • Cynnal trafodaethau parhaus gyda landlordiaid.
  • Parhau i fonitro'r ystâd a brydlesir a gofynion parhaus y sefydliad, er mwyn cynorthwyo â gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Anhawster wrth asesu rhai meysydd o 
allyriadau carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru 
ar gyfer monitro cynnydd yn barhaus yn 
erbyn targed sero net.
  • Gweithio gydag adrannau perthnasol yn y sefydliad a'r tîm dadansoddi data/perfformiad i sefydlu gwaelodlin.
  • Cynnal cysylltiadau i gael gwybodaeth am ddatblygiad methodolegau safonol ar gyfer cyfrifo allyriadau a lleihau allyriadau.

 

Risgiau

Bydd y gofrestr risgiau yn amlinellu manylion yr holl risgiau (materion posibl) a nodwyd mewn perthynas â gwaith y rhaglen ddatgarboneiddio a chynlluniau ar gyfer lliniaru. Bydd adolygiad o'r gofrestr risg yn cael ei gynnal yng nghyfarfodydd y Grŵp Gweithredu Datgarboneiddio a bydd risgiau a nodir fel rhai difrifol mewn perthynas ag effaith a thebygolrwydd yn cael eu huwchgyfeirio i Fwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd i'w hadolygu.

Risg Mesurau Lliniaru
Mae risg na fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru 
yn cyflawni’r camau gweithredu a nodir yn 
y Cynllun Datgarboneiddio a 
Chynaliadwyedd oherwydd capasiti 
annigonol ar draws y sefydliad.
  • Ystyried cyfleoedd i alinio rolau a phrosesau i gydlynu gweithgareddau, gwneud y mwyaf o ymdrechion a hyrwyddo cyflawniadau. 
  • Ymwreiddio yn y trefniadau llywodraethu presennol 
  • Nodi arweinwyr gweithredu allweddol presennol o fewn meysydd gwasanaeth ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer prosiectau partneriaeth gyda byrddau iechyd /ymddiriedolaethau eraill
  • Bwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd i fonitro 
    cyflawniad a chefnogi’r gwaith o gyflawni
Dim digon o ddealltwriaeth o'r goblygiadau 
ariannol i gyflawni'r Cynllun 
Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd.
  • Egluro goblygiadau ariannol yn ystod 2024-26; Bydd angen i Iechyd Cyhoeddus Cymru ymrwymo adnoddau a gwneud penderfyniadau dyrannu ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod
  • Integreiddio camau gweithredu i'r Cynllun Tymor Canolig Integredig a Chynllunio Cyfarwyddiaethau/Maes Gwasanaeth Unigol
  • Manteisio ar gyfleoedd am gyllid allanol i gyflawni camau gweithredu, gan gynnwys Rhaglen Ariannu Cymru, Cynlluniau Buddsoddi i Arbed a chyllid Llywodraeth Cymru 
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer prosiectau partneriaeth gyda byrddau iechyd/ymddiriedolaethau eraill i gefnogi cyfleoedd ariannu 
  • Achub ar gyfleoedd i weithio gyda Llywodraeth Cymru a gwasanaethau eraill sydd ar gael gan gynnwys Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Garbon
Mae risg nad ydym yn deall y gwir sefyllfa 
sefydliadol mewn perthynas â chyflawni 
sero net gan na allwn gyfrifo’r allyriadau 
carbon ar gyfer ein holl weithgarwch. Gallai 
hyn olygu na fydd y sefydliad yn cyrraedd y 
targed sero net erbyn 2030.
  • Recriwtio Dadansoddwr Rheoli Perfformiad i helpu i fesur er mwyn llywio penderfyniadau priodol ar y meysydd ffocws mwyaf effeithiol.
  • Monitro yn agos cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu datgarboneiddio sefydliadol dwy flynedd.
  • Parhau i gyfathrebu â sefydliadau eraill y GIG i rannu gwybodaeth, syniadau a straeon llwyddiant.