Neidio i'r prif gynnwy

Ein Taith i Sero Net

Ein Hallyriadau

Mae’n ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyno ei allyriadau carbon fel rhan o o broses adrodd Sector Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Ar ôl cyflwyno data 2022/23 ym mis Medi 2023, mae’r tabl isod yn crynhoi 
manylion am allyriadau diweddaraf y sefydliad.

Tabl 1 Allyriadau mewn kt CO2e

  2021- 22 2022-23
Adeiladau  0.44 0.40
Teithio Busnes 0.18 0.28
Cymudo  Not reported Not reported
Fflyd 0.18 0.28
Gweithio Gartref 0.61 0.50
Tir Tir Tir
Cadwyn 30.21 15.62
Gwastraff 0.09 0.08
Cyfanswm 31.71 17.16

Ar adeg adrodd, nid yw data cymudo ar gael gan nad yw’r data'n cael eu casglu. Bydd dulliau o gasglu'r 
wybodaeth hon yn cael eu harchwilio ar gyfer adrodd yn y dyfodol. Nid yw data teithio busnes ychwaith yn 
cynnwys yr holl deithiau busnes ar hyn o bryd. Mae gwaith pellach ar y meysydd hyn yn cael ei gynllunio ar 
gyfer 2024/25 (gweler yr adran deithio). Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn berchen ar unrhyw dir nac yn 
ei reoli, felly nid yw’r maes adrodd hwn yn berthnasol.
Er bod y data’n dangos ein bod wedi lleihau ein hôl troed carbon 45% yn ystod 2021/22, roedd gweithgarwch 
a gynyddodd ein hôl troed carbon yn 2021/22 wedi’i ddylanwadu’n drwm gan ymateb pandemig Covid-19. 
Mae hyn yn arbennig o amlwg wrth edrych ar y gwariant cynyddol a arweiniodd at allyriadau cadwyn 
gyflenwi uwch o’i gymharu â 2022/23.

Mae’r data hefyd yn dangos bod allyriadau adeiladau a gwastraff wedi aros yn debyg ond mae allyriadau 
teithio busnes ac allyriadau fflyd wedi cynyddu 55%. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i fwy o staff yn 
teithio at ddibenion gwaith oherwydd llacio cyfyngiadau a’n gwasanaethau sgrinio’n dychwelyd i lefelau 
gweithgarwch cyn y pandemig. Oherwydd natur ein hystâd ledled Cymru, nid yw bob amser yn bosibl cael 
data cywir ac mewn rhai achosion mae amcangyfrifon wedi’u cynnwys. Mewn perthynas â gwastraff 
cyffredinol a gwastraff wedi'i ailgylchu, dim ond un safle sydd gennym lle gellir cynnwys data cywir, lle mae’r 
gwaith yn cael ei ddarparu gan Biffa a lle mae adroddiadau dargyfeirio o safleoedd tirlenwi ar gael. Ar gyfer 
safleoedd eraill mae hyn wedi'i amcangyfrif yn seiliedig ar gyfaint y gwastraff. Mae Stericycle (SRCL) yn 
darparu gwybodaeth gywir am bwysau ein holl wastraff clinigol. Mae gwybodaeth Pŵer, Nwy a Dŵr yn 
seiliedig ar ddefnydd gwirioneddol hyd at 2022/23, a ddarperir fel rhan o'n contractau ynni. Ar hyn o bryd 
mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru un safle sy’n cynhyrchu trydan drwy solar ffotofoltaig. 
Mae data gweithio gartref yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd ym mis Mehefin 2022, data cyfrif pennau a 
monitro parhaus o’r defnydd o’n hystâd. Mae nifer o ragdybiaethau wedi'u gwneud gan nad yw'r data'n 
gyflawn ac mae patrymau gwaith yn amrywio ar draws y sefydliad. Amcangyfrifir bod 77% o weithwyr cartref 
ar hyn o bryd yn gweithio 1-2 ddiwrnod yr wythnos o safle Iechyd Cyhoeddus Cymru. Darparwyd data cadwyn 
gyflenwi gan ein Tîm Caffael.
Fel y gwelir yn y data uchod, y gadwyn gyflenwi yw'r ffynhonnell allyriadau fwyaf arwyddocaol, mae’n cyfrif 
am dros 90% o allyriadau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn dull rhagnodedig Llywodraeth Cymru o 
gyfrifo allyriadau cadwyni cyflenwi. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod allyriadau’r gadwyn 
gyflenwi yn ansicr iawn, gan eu bod yn seiliedig ar ddull asesu sgrinio ac mae angen gwella’r amcangyfrif hwn 
dros amser drwy ddatblygu dulliau mwy cywir.
Er ein bod wedi gweld gostyngiad mewn allyriadau carbon o 2021/22, bydd nifer o ffactorau wedi effeithio ar hyn a bydd yn cael ei effeithio ymhellach yn y dyfodol gan-

  • Newidiadau i wariant afreolaidd, megis gwariant Covid-19
  • Twf sefydliadol
  • Trosglwyddo gwasanaethau fel Gwelliant Cymru
  • Datblygu methodolegau ar gyfer categorïau allyriadau na allwn eu cyfrifo ar hyn o bryd, megis ôl 
    troed carbon staff sy’n cymudo

O ganlyniad, mae’n debygol na fyddwn yn parhau i weld gostyngiad yn y dyfodol mewn allyriadau ar draws 
rhai meysydd megis teithio busnes neu ein fflyd ac wrth i ni wella ein prosesau casglu data a’n methodolegau, 
bydd y sefydliad mewn sefyllfa well o ran ein cynnydd i gyflawni’r targed sero net, fodd bynnag efallai y 
byddwn yn gweld mwy o adrodd ar allyriadau carbon.

 

Cynnydd wrth roi ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio 2022-24 ar waith 

Mae ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio presennol ar gyfer 2022-24 yn cynnwys 75 o gamau 
gweithredu. Darparwyd diweddariadau cynnydd gan arweinwyr gweithredu, gan fabwysiadu'r un broses ag 
a sefydlwyd ar gyfer diweddaru'r cerrig milltir yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig.
Bydd nifer o'r camau gweithredu, er bod ganddynt ddyddiadau i'w cwblhau, yn parhau i gael eu cyflawni, 
mae rhai yn gamau gweithredu parhaus ac mae gan eraill ddyddiadau cyflwyno yn y dyfodol felly efallai nad 
yw'r gwaith wedi dechrau ond wedi'i nodi fel ar y trywydd iawn. Mae'r rhain yn cael eu hadolygu fel rhan o 
ddatblygiad yr iteriad nesaf o'r cynllun.

Ar chwarter 3 2023/2024, mae 52% o’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ym mis Ebrill 2022 wedi’u 
cwblhau (cynnydd o 15%) o fis Awst 2023, mae 43% ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni o fewn yr amserlenni 
y cytunwyd arnynt neu’n gamau gweithredu parhaus a 5% (yr un faint â’r cyfnod adrodd diwethaf) ar ei hôl 
hi. 
Mae camau gweithredu sydd ar ei hôl hi neu heb eu cwblhau wedi'u hailgynllunio a'u cynnwys yn y cynllun 
hwn lle bo'n berthnasol. 

 

Cynnydd wrth weithredu Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru

Mae Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru wedi'i ddatblygu i ysgogi gostyngiad uchelgeisiol 
ond realistig mewn allyriadau carbon o weithrediadau GIG Cymru. Mae’r Cynllun Cyflenwi yn nodi 135 o 
gamau gweithredu ar draws 46 o fentrau ar gyfer datgarboneiddio GIG Cymru.
Oherwydd natur y sefydliad, nid yw pob un o’r camau gweithredu yn y cynllun cyflenwi yn berthnasol i Iechyd 
Cyhoeddus Cymru ac rydym wedi’n heithrio rhag adrodd yn erbyn y rhain. Mae'n ofynnol i ni adrodd yn erbyn 
y Cynllun Cyflenwi bob chwarter gan ddarparu statws Coch Melyn Gwyrdd ac asesiad hyder cyflenwi yn erbyn 
y 58 o gamau gweithredu sy'n berthnasol i'r sefydliad. 
Ar chwarter 3 2023/2024, mae 58 o gamau gweithredu, 36% o’r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflenwi 
wedi’u cwblhau ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru (cynnydd o 15% ers y cyfnod adrodd diwethaf), mae 50% 
ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt neu’n gamau gweithredu 
parhaus ac mae 13% ar ei hôl hi neu mewn perygl o fynd ar ei hôl hi (gostyngiad o 2% ers y chwarter 
diwethaf). Mae manylion y camau gweithredu sydd ar ei hôl hi wedi'u cynnwys isod. Mae camau gweithredu 
sydd ar ei hôl hi neu heb eu cwblhau wedi'u hailgynllunio a'u cynnwys yn y cynllun hwn lle bo'n berthnasol. 
Dylid nodi bod llawer o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Cyflenwi yn dibynnu ar 
argaeledd cyllid. Gan nad ein Cynllun Cyflenwi ni yw hwn, ychydig o ddylanwad sydd gennym o ran 
amserlenni a bod ar ei hôl hi o ran cyflawni. Byddwn yn parhau i weithio i gyflawni’r cam gweithredu yn unol 
â’r amserlenni a nodir yn ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio.