Mae ein Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd 2024-2026 wedi’i ddatblygu’n fewnol gan y Grŵp
Gweithredu Datgarboneiddio, wedi’i lywio gan waith parhaus ar ddatgarboneiddio, camau gweithredu a’r
hyn a ddysgwyd o’r broses o ddatblygu a gweithredu ein cynllun presennol a chyfranogiad a chydweithio gan
grwpiau a staff ar draws y sefydliad megis ein Grŵp Cydweithredol Datgarboneiddio, Cynaliadwyedd
Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd, Eiriolwyr Gwyrdd a Grŵp yr Economi Sylfaenol. Rydym hefyd wedi
defnyddio’r hyn a ddysgwyd gan gydweithwyr mewn byrddau iechyd a sefydliadau eraill sydd wedi helpu i
lunio ein cynllun.
Rydym wedi ymrwymo i egwyddor Datblygu Cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn sicrhau
bod ein penderfyniadau’n ystyried yr effaith y gallai ei chael ar staff, ein gweithlu a phobl sy’n byw yng
Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn ceisio cofleidio’r Pum Ffordd o Weithio yn llawn i’n helpu i
weithio’n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a mynd i’r afael â’r heriau hirdymor sy’n ein
hwynebu. Byddwn yn ymgorffori'r dull hwn yn y cam cynllunio a gweithredu ac yn ei ddefnyddio i’n helpu i
werthuso effaith y cynllun.
Rydym yn cydnabod ein cyfraniadau tuag at gyflawni 7 nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
ac rydym yn bwriadu paratoi astudiaethau achos i ddangos sut mae ein gweithredoedd yn cefnogi pob un
o’r nodau ac yn cymhwyso’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy.
Ffrwd Gweithgaredd 1 Rheoli Carbon |
Ffrwd Gweithgaredd 2 Adeiladau a'n Hystâd |
Ffrwd Gweithgaredd 3 Trafnidiaeth a Theithio |
Ffrwd Gweithgaredd 4 Caffael |
Ffrwd Gweithgaredd 5 Dulliau o gyflawni ein gwasanaethau |
Mae ein cynllun wedi’i rannu’n bum ffrwd gweithgarwch wahanol ac mae’n nodi’r camau a gymerir i leihau
ein hôl troed carbon a hefyd y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi ein hagendâu economi sylfaenol ac
economi gylchol.
Mae’r tablau’n cynnwys statws dwyster lliw i helpu’r sefydliad i ddeall yr effaith y bydd y gwaith yn ei chael
ar leihau ein hôl troed carbon ac i gefnogi gwneud penderfyniadau a blaenoriaethu. I gyfrifo hyn, rydym wedi
adolygu effaith bosibl pob cam gweithredu ar leihau allyriadau carbon ac wedi neilltuo arlliwiau o liw yn
cynyddu o isel i uchel. Mae hwn yn asesiad goddrychol, y gobeithiwn ei fireinio dros amser i fesur effaith
camau gweithredu yn fwy cywir. Rydym hefyd wedi nodi lle mae camau gweithredu’n gysylltiedig ag
agendâu’r economi sylfaenol a’r economi gylchol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer pob un o’r camau
gweithredu.
Y camau nesaf: 2024-2026 - Rydym yn adeiladu ar y gwaith a’r trefniadau llywodraethu a ddatblygwyd fel
rhan o’r Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio cyntaf, ac yn dysgu o’r hyn sydd wedi gweithio hyd yma i leihau
ein hôl troed carbon, ac integreiddio egwyddorion economi gylchol ac economi sylfaenol yn ein cynlluniau,
Gwneud cynnydd: 2026 - Rydym ar y trywydd iawn i gyfrannu at, a chefnogi targed sero net cyfunol GIG
Cymru. Mae’r effaith rydym yn ei chael ar yr amgylchedd yn cael ei hystyried ym mhopeth a wnawn ac mae
methodolegau cyson ar gyfer cyfrifo ein hôl troed carbon wedi’u hymgorffori yn ein penderfyniadau.
Cyflawni sero net: 2030 - Rydym wedi cyrraedd ein nod sero net ac rydym ar y trywydd iawn i fod yn sefydliad
carbon negyddol erbyn 2035 fel y nodir yn Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru.