Cafodd amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) o'r Coronafeirws ei nodi gyntaf yn India ym mis Hydref 2020. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi'i gategoreiddio fel amrywiolyn sy’n peri pryder.
Mae pob feirws yn mwtadu. Fel arfer, mae'r mwtaniadau hyn mor fach fel nad ydynt yn cael fawr o effaith ar y ffordd y mae'r feirws yn ymddwyn.
Weithiau, fodd bynnag, gall mwtaniadau newid ymddygiad feirws. Er enghraifft, gall feirws fwtadu mewn ffordd sy'n galluogi iddo ledaenu'n gyflymach. Mewn achosion fel hyn, gellir nodi amrywiolyn wedyn fel amrywiolyn sy'n peri pryder.
Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) yn fwy trosglwyddadwy na'r amrywiolyn amlycaf blaenorol, sef amrywiolyn Alffa (neu Gaint). Mae pryderon ein bod yn dechrau gweld trosglwyddo lleol yn y gymuned, a thystiolaeth gynyddol o achosion heb hanes teithio.
Nid yw'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) yn fwy niweidiol nag amrywiolyn Alffa, a nodwyd gyntaf yng Nghaint.
Mae nifer yr achosion o amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) a nodwyd yng Nghymru wedi'i restru ar dab goruchwylio amrywiolynnau dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cael ei ddiweddaru am 12pm bob dydd Mawrth a dydd Iau.
Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) ar ôl dau ddos. Mae'n bwysig cael y ddau ddos o'r brechlyn Coronafeirws pan fyddant yn cael eu cynnig i chi i roi'r amddiffyniad gorau posibl.
Efallai fod yr amrywiolyn yn wahanol, ond nid yw'r ffordd rydym yn amddiffyn ein hunain wedi newid. Cadwch eich hun a'ch anwyliaid yn ddiogel drwy wneud y canlynol:
• derbyn y cynnig i gael brechlyn
• cadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth y rhai nad ydych yn byw gyda nhw
• gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen
• golchi eich dwylo'n rheolaidd
Byddant. Bydd y profion PCR a'r profion llif unffordd a ddefnyddir yng Nghymru yn canfod yr amrywiolyn newydd hwn.
Os oes gennych amrywiolyn Delta yna gall swyddogion olrhain cysylltiadau, yn seiliedig ar asesiad risg, ofyn i chi hunanynysu am hyd at 14 diwrnod fel sail ragofalus.
Nid dyma'r amrywiolyn cyntaf o'r Coronafeirws ac mae'n annhebygol mai dyma'r olaf.