Neidio i'r prif gynnwy

Sut alla i leihau fy risg o ddal COVID-19?

Er mwyn lleihau eich risg o ddal COVID-19 neu ei drosglwyddo i bobl eraill, mae'n bwysig cadw at gyngor cyfredol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys golchi'ch dwylo'n rheolaidd, defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol fel mwgwd yn briodol, cadw pellter cymdeithasol a chadw at y canllawiau hunanynysu. Dylai unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119. Bydd y brechiad COVID-19 yn helpu i'ch diogelu rhag dal COVID-19, ac felly rydym yn argymell i chi archebu'ch apwyntiad pan fyddwch chi'n derbyn eich gwahoddiad.