Neidio i'r prif gynnwy

Faint o fitamin D sydd ei angen arnaf?

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) wedi cynghori bod angen 10 microgram (400 uned) o fitamin D y dydd ar y mwyafrif o bobl er mwyn eu gwarchod rhag diffyg fitamin D. 

Maent yn cynghori y dylai pawb gymryd atchwanegiad fitamin D rhwng mis Hydref a mis Mawrth o 10 microgram (400 uned) bob dydd. Mae'r dos hwn yn ddiogel ac yn effeithiol wrth atal diffyg fitamin D. Argymhellir y dos hwn ar gyfer oedolion, menywod sy'n feichiog neu sy'n bwydo babanod ar y fron, pobl ifanc, a phlant dros 4 oed.

Cynghorir rhai pobl i gymryd atchwanegiad fitamin D o 10 microgram bob dydd drwy gydol y flwyddyn oherwydd nad ydynt yn dod i gysylltiad â golau’r haul yn ddigon aml hyd yn oed yn ystod yr haf. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd dan do y rhan fwyaf o'r amser, er enghraifft, pobl sy'n eiddil, yn gaeth i'w cartrefi, neu bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Dylai pobl sy'n gorchuddio'r rhan fwyaf o'u croen pan fyddant y tu allan hefyd gymryd atchwanegiad drwy'r flwyddyn, neu bobl sydd â chroen tywyllach, megis pobl â chefndiroedd Affricanaidd, Affricanaidd-Caribïaidd neu dde Asia.

Dylai plant rhwng 1 a 4 oed gymryd 10 microgram (400 uned) o fitamin D bob dydd drwy gydol y flwyddyn. 

Dylai babanod sy'n llai na blwydd oed gael rhwng 8.5 microgram (340 uned) a 10 microgram (400 uned) o fitamin D unwaith y dydd os ydynt yn bwydo ar y fron, neu os ydynt yn cael eu bwydo â fformiwla ond yn yfed llai na 500ml y dydd. Mae hyn oherwydd bod llaeth fformiwla eisoes yn cynnwys fitamin D.