Neidio i'r prif gynnwy

A yw'n bosibl cael gormod o fitamin D?

Profwyd bod dos o 10 microgram (400 uned) o fitamin D y dydd yn ddiogel ac yn effeithiol wrth atal diffyg fitamin D. Nid oes angen cymryd mwy na hyn.

Gallai dosau mawr iawn o dros 100 microgram (4,000 uned) y dydd fod yn niweidiol gan y gallai achosi lefelau uchel o galsiwm yn y corff. Gall hyn achosi problemau gyda'r esgyrn, yr arennau a'r galon.

Efallai na fydd pobl sydd â chyflyrau meddygol sy'n achosi lefelau uchel o galsiwm, neu broblemau gyda’r arennau, yn gallu cymryd cymaint o fitamin D. Mae'n well trafod y dos fitamin D â'ch meddyg os oes gennych unrhyw gwestiynau. 

Nid yw'n bosibl gwneud gormod o fitamin D o olau'r haul. Fodd bynnag, mae'n bwysig osgoi llosg haul a niwed i'r croen er mwyn lleihau'r risg o ganser y croen.