Mae Cymru’n unigryw yn y DU am fod strategaeth unedig ar gyfer camddefnyddio sylweddau Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018 sy’n mynd i’r afael â’r defnydd o gyffuriau, alcohol ac amryw o gyffuriau.
Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull a fabwysiadwyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. O fewn Iechyd y Cyhoedd, mae dwy is-adran, Gwella Iechyd a Diogelu Iechyd yn gysylltiedig â’r agenda camddefnyddio sylweddau.
Mae Gwella Iechyd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ac addysg gan alluogi unigolion i gael rheolaeth dros benderfynyddion iechyd ac felly gwella eu hiechyd.
Mae Diogelu Iechyd yn pwysleisio datblygu dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fwriadwyd ar gyfer diogelu iechyd a lles, atal salwch ac ymestyn bywyd.
Mae’r timau’n brofiadol ac mewn sefyllfa dda i roi canllawiau a gwybodaeth gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ar y niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, a allai hefyd gynnwys mwy o weithgaredd rhywiol a gweithgaredd peryglus arall (e.e. troseddu a charcharu) a’r perygl cysylltiedig o heintiau a feirysau a gludir yn y gwaed a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Yn aml, mae cyffuriau ac alcohol yn cael eu defnyddio ar y cyd (p’un ag ydynt yn rhai wedi eu rhagnodi neu’n gyffuriau anghyfreithlon) ac yn hyn o beth mae’r tudalennau gwe hyn wedi cael eu cynllunio i gyfleu a disgrifio natur a graddfa camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn well.
Dyluniwyd yr adrannau canlynol i roi trosolwg (gyda dogfennau ategol) o’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n ei wneud ac y mae wedi ei gwblhau hyd yn hyn ym maes camddefnyddio sylweddau.
Mae wedi ei rannu’n ddwy adran glir; Tystiolaeth ac Ymgysylltu. Rydym yn annog archwilio bob elfen i gael cipolwg ar wir natur camddefnyddio sylweddau yng Nghymru a’r DU ehangach a’r gwaith newydd ac arloesol y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gysylltiedig ag ef.
Defnyddiwch y dolenni isod i ganfod mwy.