Nod Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yw helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall agweddau, barn, emosiynau a diddordebau’r cyhoedd ar amrediad o bynciau iechyd y cyhoedd. Fel y sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol i Gymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i amddiffyn a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweld y cyhoedd fel partner pwysig yn eu penderfyniadau ac mae am sicrhau bod gan
drigolion Cymru lais mewn polisi ac ymarfer sy’n effeithio arnyn nhw, eu cymunedau, a’u cenedl.
Bydd y Panel hwn yn rhoi mecanwaith i Iechyd Cyhoeddus Cymru o allu cyfleu llais y cyhoedd yn rheolaidd.
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r hyn y maent yn ei wneud, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd).
Mae ymgysylltu â’r cyhoedd hefyd yn rhan bwysig o ddeddfwriaeth genedlaethol yng Nghymru o’r enw ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’ (WFGA). Drwy’r ddeddfwriaeth hon, mae’n ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau; gweithio'n well gyda phobl, cymunedau, a'i gilydd; ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn nodi'r cyhoedd fel rhanddeiliad allweddol wrth wneud penderfyniadau.