Neidio i'r prif gynnwy

A oes unrhyw risgiau / manteision o gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus?

Nid oes unrhyw risgiau disgwyliedig o gymryd rhan yn Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus. Bydd yr holl ddata a gesglir fel rhan o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn
cael eu storio’n ddiogel. Ni fydd eich data personol (e.e. enw) yn cael eu storio'n uniongyrchol gyda'r atebion i'r arolwg a ddarperir gennych. Bydd pob aelod o Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn cael cod adnabod unigryw a gynhyrchir ar hap, a bydd hwnnw’n cael ei neilltuo i’ch atebion.

Mantais cymryd rhan fydd eich bod yn helpu i roi llais i bobl Cymru o fewn polisi ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Rydym hefyd yngobeithio y bydd cymryd rhan yn cynyddu eich gwybodaeth am wahanol bynciau iechyd y cyhoedd a allai fod o ddiddordeb i chi.