Mae mynd dros ein pwysau ac yn ordew yn cynyddu ein risg o sawl cyflwr iechyd megis diabetes, clefyd y galon, canser a strôc a gall waethygu effaith cyflyrau eraill fel arthritis. Mae mynd i’r afael â gordewdra yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal y problemau hyn a chefnogi iechyd cyffredinol ein cymunedau.