Mae cyfraith achosion yn arwain sut rydym yn asesu effaith.
Dyma egwyddorion Brown a Bracking sy’n helpu i arwain y rhai sy’n gwneud penderfyniadau wrth gynnal asesiadau effaith:
Canllawiau technegol ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Cymru | EHRC
Mae gan bob sefydliad GIG Cymru ei weithdrefnau ei hun i gynnal asesiad i asesu effeithiau o ran Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol.
Ar gyfer sefydliadau'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru (fel Byrddau Iechyd) maent yn ofyniad statudol. Mae archwilio effeithiau yn rhan annatod o’r broses gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau’n cael effeithiau cadarnhaol, a bod unrhyw effeithiau andwyol yn cael eu nodi ac y gellir mynd i’r afael â nhw.
Gall gwaith ymgysylltu helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a dylai fod yn rhan o'r dystiolaeth mewn Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn ei ddiffinio fel 'Dull o weithio a seilir ar asedau yw cyd-gynhyrchu mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n galluogi pobl sy’n darparu a phobl sy’n derbyn gwasanaethau i rannu grym a chyfrifoldeb, ac i gydweithio trwy gysylltiadau cyfartal, dwyochrog a gofalgar Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fo’i angen, ac i gyfrannu at newid cymdeithasol’.
Mae cyd-gynhyrchu ar draws y GIG yn cyfeirio at gynnwys cleifion, eu teuluoedd, a chymunedau wrth ddylunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd. Fe'i defnyddir mewn sefyllfaoedd pan fo darparwyr gofal iechyd yn cydnabod bod angen iddynt weithio mewn partneriaeth â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu a darparu gofal effeithiol o ansawdd. Gellir defnyddio cyd-gynhyrchu mewn lleoliadau gofal iechyd amrywiol, megis wrth:
Mae llawer o fanteision i'r dull hwn. Un o’r rhain yw meithrin perthynas agos â rhanddeiliaid.
I gael canllaw ymarferol, gweler y pecyn cymorth Cyd-gynhyrchu - icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/gwelliant-cymru/academi-gwelliant-cymru/llyfrgell-adnoddau/canllawiau-pecyn-cymorth/canllaw-pecyn-cymorth-cydgynhyrchu/
Gall gwaith ymgysylltu helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a dylai fod yn rhan o'r dystiolaeth mewn Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
Beth a olygwn wrth Gyd-gynhyrchu?
Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn ei ddiffinio fel 'Dull o weithio a seilir ar asedau yw cyd-gynhyrchu mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n galluogi pobl sy’n darparu a phobl sy’n derbyn gwasanaethau i rannu grym a chyfrifoldeb, ac i gydweithio trwy gysylltiadau cyfartal, dwyochrog a gofalgar Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fo’i angen, ac i gyfrannu at newid cymdeithasol’.
Cyd-gynhyrchu wrth wneud penderfyniadau:
Mae cyd-gynhyrchu ar draws y GIG yn cyfeirio at gynnwys cleifion, eu teuluoedd, a chymunedau wrth ddylunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd. Fe'i defnyddir mewn sefyllfaoedd pan fo darparwyr gofal iechyd yn cydnabod bod angen iddynt weithio mewn partneriaeth â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu a darparu gofal effeithiol o ansawdd. Gellir defnyddio cyd-gynhyrchu mewn lleoliadau gofal iechyd amrywiol, megis wrth:
Mae llawer o fanteision i'r dull hwn. Un o’r rhain yw meithrin perthynas agos â rhanddeiliaid
I gael canllaw ymarferol, gweler y pecyn cymorth Cyd-gynhyrchu - https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/gwelliant-cymru/academi-gwelliant-cymru/llyfrgell-adnoddau/canllawiau-pecyn-cymorth/canllaw-pecyn-cymorth-cydgynhyrchu/
Cyhoeddwyd adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Medi 2022 a oedd yn archwilio effaith cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar draws sefydliadau’r GIG yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn darparu ystod o feysydd gwella y dylai sefydliadau fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn i waith asesu fod yn fwy nag ymarfer blwch ticio.
Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy nag Ymarfer Blwch Ticio? | Audit Wales