Grwpiau clwstwr
Nodwyd 4 grŵp penodol o gyn-ysmygwyr sy'n oedolion (y ffigur mewn cromfachau yw % y boblogaeth a gynhwyswyd ym mhob grŵp clwstwr).
1) Dynion a menywod ag iechyd ac iechyd meddwl gwael a llai o gyfoeth, cymysgedd o barau priod neu bobl wedi ysgaru, roedd mwy heb blant (7%)
2) Dynion a menywod canol oed a chanddynt blant, yn llai difreintiedig, yn fwy iach, hapus, ac yn gweithio, roedd mwy yn barau priod ond roedd llai wedi trio e-sigaréts (38%)
3) Dynion a menywod ifanc, mwy addysgedig, iechyd meddwl gwaeth, fersiwn iau, sengl o glwstwr 1, ychydig yn fwy difreintiedig, roedd gan fwy ohonynt blant, wedi trio e‑sigaréts a mwy yn eu defnyddio nawr (20%)
4) Dynion a menywod hŷn, wedi ymddeol, gan gynnwys mwy ≥ 75 mlwydd oed, roedd mwy mewn iechyd gwael, yn briod, erioed wedi defnyddio e-sigaréts, roedd ganddynt foddhad â bywyd uchel (34%)
[Nodyn methodolegol: Mae'r holl gyfrannau a restrir uchod wedi'u pwysoli i adlewyrchu cyfrannau cenedlaethol y boblogaeth; cyfanswm cyfrifau heb eu pwysoli oedd 2,136 o ymatebion, ar gyfer grwpiau clwstwr 1-4 roedd cyfrifau heb eu pwysoli yn 148, 735, 271, 982 yn y drefn honno].
Ffigur 3. Canran yr ymatebion i gwestiynau a chategorïau dethol mewn cyn-ysmygwyr sy’n oedolion yn ôl grwpiau clwstwr (N=1,887 wedi’i bwysoli)
Roedd clystyrau 1-4 yn 7%, 38%, 20%, 34% o'r ymateb yn y drefn honno; Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021/22