Cyffredinrwydd Ysmygu
Yn 2021/22, dywedodd 4.5% o unigolion 11-16 oed eu bod yn ysmygu ac nid oedd 3.1% am ateb y cwestiwn statws ysmygu allan o N=117,097 o'r ymatebion a gaed gan boblogaeth Cymru. Roedd 8,842 o unigolion 11-16 oed yn ysmygwyr (o ysmygu bob dydd i lai nag unwaith yr wythnos, a ddisgrifir fel ysmygwyr achlysurol) neu na ddatgelodd eu statws ysmygu.
Grwpiau clwstwr
Fe wnaethom nodi 6 grŵp clwstwr penodol o ysmygwyr ifanc (y ffigur mewn cromfachau yw % y boblogaeth sydd wedi’i chynnwys ym mhob grŵp clwstwr).
1) Bechgyn iau (11-13 oed) oedd â chyfoeth teuluol uwch, iechyd meddwl da ond roedd gan rai ymddygiad rhag-gymdeithasol is (sgiliau cymdeithasol neu gymwyseddau) (21%)
2) Merched hŷn (14-16 oed), a oedd yn ysmygu bob dydd, a oedd yn fwy tebygol o ymddwyn yn beryglus (defnyddio alcohol, cyffuriau hamdden, e-sigaréts), ac roedd ganddynt iechyd meddwl gwaeth ac roedd gan rai ymddygiadau rhag-gymdeithasol is (21%)
3) Pobl ifanc (11-16 oed) a oedd yn ysmygu’n rheolaidd, a oedd â llesiant meddyliol gwael ac ymddygiadau risg uwch (10%)
4) Bechgyn ifanc (11-13 oed) a oedd yn fwy tebygol o ateb ‘Dydw i ddim eisiau ateb’ i lawer o gwestiynau’r arolwg (11%)
5) Merched iau (11-13 oed) a oedd yn ysmygwyr achlysurol, a oedd ag ychydig o ymddygiad risg, ond roedd ganddynt lesiant ac iechyd meddwl gwael, roeddent yn llai tebygol o fod yn byw heb naill ai eu mam neu eu tad yn y cartref lle maent yn byw y rhan fwyaf o'r amser (21%)
6) Merched hŷn (14-16 oed) a oedd yn ysmygwyr achlysurol ac roedd ganddynt iechyd a llesiant da, ychydig o ymddygiad risg, roeddent yn llai tebygol o fod yn byw heb naill ai eu mam neu eu tad yn y cartref lle maent yn byw y rhan fwyaf o’r amser (17%)
Ffigur 1. Canran yr ymatebion i gwestiynau a chategorïau dethol ymhlith ysmygwyr 11-16 oed yn ôl grwpiau clwstwr (gan gynnwys ymatebion â statws ysmygu 'Dydw i ddim eisiau ateb', N=8,842)
Roedd clystyrau 1-6 yn 21%, 21%, 10%, 11%, 21%, 17% o'r ymatebion a gaed yn y drefn honno; SHRN 2021/22