Dangosodd y dadansoddiad, o’u cymharu ag ysmygwyr, fod oedolion a oedd yn gyn-ysmygwyr yn tueddu i fod:
-
- Yn hŷn ≥ 75 oed
- Yn fwy cefnog, addysgedig, cyflogedig
- Â phartner/yn rhan o gwpl ac roedd ganddynt blant
- Yn hapusach ac roedd ganddynt lai o broblemau iechyd meddwl
- Yn fwy tebygol o adrodd am fwy o weithgarwch corfforol, pwysau iach a diet da ond roedd gan fwy iechyd gwaeth (efallai bod rhai ymddygiadau iach wedi’u hysgogi gan iechyd gwael)
Canfuom hefyd fod mwy o gyn-ysmygwyr nag ysmygwyr yn defnyddio e-sigaréts bob dydd, ac roedd hyn yn fwy amlwg ymhlith y rhai a oedd dan 35 oed.