Arolygon cenedlaethol
Defnyddiwyd data o ddau arolwg cenedlaethol gennym i ddwyn ynghyd wybodaeth am ddemograffeg, hanes ysmygu, defnyddio e-sigaréts, ffactorau ffordd o fyw, amddifadedd ar lefel yr unigolyn, cyflogaeth, iechyd cyffredinol a chyflyrau hirdymor, iechyd meddwl a llesiant. Ymhlith pobl ifanc, fe wnaethom nodi chwe grŵp poblogaeth penodol yn y rhai sy'n ysmygu. Ymhlith oedolion, fe wnaethom nodi wyth grŵp poblogaeth penodol yn y rhai sy'n ysmygu a'r rhai sydd wedi rhoi'r gorau i ysmygu.
Arolygon: defnyddiwyd dau arolwg sy'n cynrychioli poblogaeth Cymru
Clystyru
Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer oedolion ac ymchwil flaenorol fod mwyafrif yr ysmygwyr ym mhoblogaeth Cymru wedi dechrau ysmygu rhwng 11-24 oed, ac yn bennaf yn ystod y glasoed. Felly, gwnaethom ddadansoddiad clwstwr yn y rhai 11-16 oed gan ddefnyddio data arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
Yn ogystal, gwnaethom ddadansoddiad clwstwr o oedolion sy'n ysmygu yng Nghymru ac ailadrodd y dadansoddiad ymhlith cyn-ysmygwyr i weld a oedd nodweddion gwahanol rhwng y ddau grŵp hyn.
Y dechneg clystyru
Mae dadansoddi clwstwr yn dechneg dysgu peirianyddol heb oruchwyliaeth sy'n golygu y gall greu grwpiau o unigolion nad oes cysylltiad rhyngddynt ymlaen llaw yn seiliedig ar gyfuniadau o nodweddion tebyg. Defnyddiodd pob dadansoddiad yn y prosiect hwn dros 60 o newidynnau o'r arolygon cenedlaethol a ddefnyddiwyd. Mae’r dadansoddiad yn ein galluogi i nodi grwpiau clwstwr penodol yn y boblogaeth. Fodd bynnag, mae nodweddion grŵp o’r dadansoddiad clwstwr yn dangos nodweddion mwy cyffredin yn hytrach na rhai unigryw ar gyfer unrhyw grŵp clwstwr. I gael rhagor o wybodaeth, mae’r adroddiad llawn a’r adroddiad technegol ar gael ar gais (cysylltwch ag Annette Evans, PHW.Research@wales.nhs.uk; Rhian Hughes, arsyllfaiechydcyhoedduscymru@wales.nhs.uk).