Neidio i'r prif gynnwy

Casgliadau ac argymhellion

Canfyddiadau gydag argymhellion

  • Mae'r astudiaeth hon yn canfod nad yw'r boblogaeth o bobl ifanc ac oedolion sy'n ysmygu i gyd yr un fath, ond mae'n bosibl eu grwpio yn ôl nodweddion cyffredin. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol i helpu i ddeall y cymhellion ar gyfer ysmygu yn y gwahanol grwpiau hyn i dargedu negeseuon a strategaethau i gefnogi lleihau ysmygu a rhoi'r gorau i ysmygu.
  • Wrth i nifer y bobl sy’n ysmygu ostwng, mae ysmygwyr yn gallu cael eu grwpio yn ôl proffiliau penodol a'r cam nesaf yw teilwra negeseuon iechyd i geisio helpu'r grwpiau hyn. Mae llawer iawn o wybodaeth am nodweddion yn y dadansoddiadau hyn sy’n rhoi dewis ynghylch ble a sut i dargedu negeseuon ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu e.e. ysmygwyr â ffyrdd gwahanol o fyw (yfed alcohol, ymarfer corff, bwyta’n iach, gordewdra) neu grwpiau oedran. Er enghraifft, byw mewn tai cymdeithasol (Ffigur 2, 3) lle gellid gosod negeseuon am wasanaethau Helpa Fi i Stopio lle maent yn fwy tebygol o gael eu gweld.
  • Mae cyfanswm sgorau Cryfderau ac Anawsterau (SDQ) gwaeth a sgiliau rhag-gymdeithasol is (h.y. ymddygiadau sydd o fudd i eraill neu gymdeithas) yn nodwedd amlwg yn y clystyrau ieuenctid ar gyfer y rhai sy’n ysmygu bob dydd a gall hyn fod yn arwydd o iechyd meddwl gwaeth megis sgiliau ymdopi. Gallai cymorth pellach ar gyfer problemau iechyd meddwl y glasoed fod yn ymyriad posibl i bobl ifanc yn eu harddegau i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu neu eu hatal rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf.
     

Casgliadau

Mae'r astudiaeth hon wedi dangos sut y gall dull clystyru newydd helpu i nodi gwahanol grwpiau o ysmygwyr sy'n rhannu nodweddion cyffredin a gwahanol grwpiau sydd wedi rhoi'r gorau i ysmygu. Mae'r mewnwelediadau hyn yn darparu dealltwriaeth fwy cyflawn o'r ffactorau a all gyfrannu at ysmygu, y rhwystrau sy’n bodoli i roi'r gorau i ysmygu a helpu i lywio sgyrsiau am roi'r gorau i ysmygu. Hyd y gwyddom, dyma’r tro cyntaf i’r math hwn o ddadansoddiad gael ei wneud yng Nghymru neu yn rhywle arall mewn arolygon poblogaeth mawr sydd â nifer o gwestiynau ar themâu sy’n ymwneud â ffactorau demograffig, iechyd a ffordd o fyw. Mae'r astudiaeth hon yn ategu ymchwil arall i gymhellion a rhwystrau'r boblogaeth sy’n ysmygu yng Nghymru a ddarganfuwyd mewn astudiaethau fel y prosiect Personas (ar gael ar gais).

Gall y nifer sy’n ysmygu yng Nghymru fod yn uwch na’r hyn a adroddwyd yn yr arolygon a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon oherwydd efallai y bydd pobl yn credu nad yw ysmygu’n dderbyniol yn gymdeithasol ac felly efallai na fyddant yn datgelu eu bod yn ysmygu.
 

Sut y defnyddiwyd y canfyddiadau

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi defnyddio canfyddiadau’r astudiaeth hon i lywio Bwrdd Rheoli Tybaco Llywodraeth Cymru ac mae ein hymgynghorwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi defnyddio’r wybodaeth hon i wneud y canlynol:

  • llywio datblygiad strategaeth ICC i leihau ysmygu yng Nghymru
  • llywio datblygiad gweithgareddau marchnata Helpa Fi i Stopio
  • darparu tystiolaeth ar ddefnyddio e-sigaréts i gefnogi’r ddadl yn Llywodraeth Cymru ar y glasoed yn defnyddio fêps untro a’r cynllun i wahardd fêps untro
  • darparu tystiolaeth i gefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i godi’r oedran pan all pobl brynu tybaco yn gyfreithlon ac i gyfyngu ar argaeledd ac amlygrwydd fêps