Neidio i'r prif gynnwy

YSTADEGAU SWYDDOGOL: Cyhoeddi Data Ystadegau Blynyddol Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid i Gymru

Cyhoeddwyd: 14 Tachwedd 2022

Mae diweddariad data blynyddol 2022 o'r Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid (CARIS) i Gymru wedi'i gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r diweddariad data yn cael ei gyflwyno mewn tri thabl, ac yn cynnwys:

  • data am anomaleddau cynhenid
  • data am glefydau prin yn ystod plentyndod
  • cyfraddau canfod cynenedigol

O'r holl enedigaethau yng Nghymru, effeithiwyd ar 4.9 y cant gan anomaleddau cynhenid.  Mae'r gyfran hon ychydig yn is na'r 5.1 y cant a nodwyd yn nata 2018, a disgwylir y gallai pandemig y Coronafeirws fod wedi effeithio ar gasglu data.  Er enghraifft, efallai fod rhai triniaethau llawfeddygol arferol wedi'u gohirio ac felly roedd adrodd data wedi'i oedi drwy'r llwybr hwn.

Roedd 85 y cant o fabanod yr effeithiwyd arnynt gan anomaleddau cynhenid yn fywanedig, gyda 96.6 y cant o'r rhain yn goroesi i flwydd oed.   O'r rhai â rhywedd wedi'i gofnodi, roedd 59 y cant yn fechgyn. Mae'r cyfrannau hyn yn parhau'n debyg i'r rhai a adroddwyd yn niweddariad 2018

Mae cyfraddau cyffredinrwydd anomaleddau cynhenid yn ôl rhanbarth awdurdod lleol yn parhau i fod heb newid i raddau helaeth o gymharu ag adroddiadau'r blynyddoedd blaenorol.

Mae data cyfrif a chyffredinrwydd yn cael eu nodi ar gyfer dros 260 o wahanol glefydau prin ac yn cael eu categoreiddio yn ôl achoseg, neu achos.  Er enghraifft, y cyflwr genetig a adroddwyd amlaf oedd Ffibrosis Systig gyda 310 o achosion wedi'u cofnodi sy'n cyfateb i gyffredinrwydd o 3.96 fesul 10,000 o enedigaethau byw.

Mae'r ystadegau hyn yn cael cynhyrchu fel ymdrech ar y cyd gan CARIS a'r Tîm Dadansoddol Arsyllfa a Chanser (OCAT). Yn ogystal â'r crynodebau pennawd a ddarperir uchod, mae'r tablau data a'r allbynnau sy'n ffurfio'r datganiad ystadegau swyddogol ar gael yma Arolygon blynyddol a thablau data.

Ymchwil arall a gynhelir gan dîm CARIS

Goroesiad Deng Mlynedd Plant ag Anomaleddau Cynhenid: Astudiaeth Carfan Ewropeaidd | Pediatreg | Academi Bediatreg America (aap.org)

Clefyd Behçet’s yng Nghymru: disgrifiad epidemiolegol o ddata gwyliadwriaeth cenedlaethol | Orphanet Journal of Rare Diseases | Testun Llawn (biomedcentral.com)

Gellir dod o hyd i restr lawn o gyflwyniadau CARIS ar wefan CARIS, ynghyd â dadansoddiad a mewnwelediad pellach.

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol CARIS 2022 yn rhithwir ddydd Mawrth 15 Tachwedd (12.00 – 14.00). Os hoffech fod yn bresennol, anfonwch neges e-bost i caris@wales.nhs.uk i gael y ddolen.