25th Tachwedd 2024
Ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol yw'r prif rwystrau sy'n atal pobl rhag gweithredu ar eu pwysau, yn hytrach na diffyg gwybodaeth neu sgiliau, yn ôl arolwg diweddaraf Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.
Nodwyd mai ‘gormod o demtasiynau’ oedd y rhwystr mwyaf sy'n atal pobl rhag gweithredu er mwyn cynnal pwysau iach.
Dewisodd 29 y cant ‘demtasiynau’ o restr o 11 o rwystrau i weithredu, mwy nag unrhyw opsiwn arall. Dywedodd 19 y cant nad oes ganddynt ddigon o amser, a dywedodd 17 y cant fod eu swydd yn eu hatal rhag gweithredu.
Dim ond saith y cant ddywedodd fod diffyg sgiliau coginio, a dim ond pump y cant ddywedodd fod gwybodaeth annigonol yn rhwystrau.
Dywedodd 66 y cant o'r ymatebwyr eu bod yn drymach nag y maent am fod. Dywedodd 88 y cant o'r bobl hyn eu bod yn bwriadu gweithredu ar eu pwysau.
Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at yr angen i'w gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau iach. Maent yn dilyn arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2023 a ddangosodd gefnogaeth gref gan y cyhoedd yng Nghymru (57 y cant) ar gyfer camau gweithredu gan y llywodraeth i wneud y bwyd rydym yn ei brynu yn iachach.
Meddai Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r canfyddiadau hyn yn ddefnyddiol oherwydd gallwn weld bod llawer o bobl yng Nghymru yn cydnabod y gallant fod dros bwysau iach, ac maent naill ai'n bwriadu cymryd camau gweithredu i newid hyn, neu eisoes yn gwneud hynny.
“Fodd bynnag, mae pobl hefyd yn tynnu sylw at yr heriau, gan ddweud nad yw'n ymwneud â bwriad nac ewyllys, ac y gall ein hamgylchedd byw modern ei gwneud yn anodd cyrraedd pwysau iachach.
“Maent am weithredu ar eu pwysau, ond maent yn teimlo bod eu hamgylchedd yn gweithio yn eu herbyn oherwydd eu bod wedi'u hamgylchynu gan fwyd egni uchel sy'n isel mewn maethynnau.
“Dyna pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi gwaith gan y llywodraeth i lunio'r amgylchedd bwyd a diod tuag at opsiynau cynaliadwy ac iachach, fel lleoliadau a hyrwyddiadau prisiau ar fwydydd afiach, i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd.”
Yn yr arolwg, dywedodd 27 y cant o bobl hefyd fod peidio â bod yn y meddylfryd cywir yn eu hatal rhag gweithredu i gyrraedd neu gynnal pwysau iach. Dywedodd 20 y cant fod eu hiechyd yn rhwystr.
Dywedodd 11 y cant nad ydynt yn gallu fforddio bwyd iach, a dywedodd naw y cant fod diffyg opsiynau bwyd iach yn siopau y maent yn mynd iddynt yn eu hatal rhag gweithredu.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am y camau y gallwch eu cymryd i gynnal pwysau iach, ewch i wefan Pwysau Iach Byw'n Iach.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn grŵp cynrychioliadol cenedlaethol o tua 2,500 o bobl o bob rhan o Gymru, sy'n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolygon rheolaidd a rhoi mewnwelediad o faterion iechyd cyhoeddus allweddol. Cwblhaodd 1,481 o gyfranogwyr yr arolwg ym mis Awst 2024.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, cofrestrwch yma.