Neidio i'r prif gynnwy

Yr adroddiadau cyntaf ar effeithiau gwres ar iechyd yng Nghymru yn dangos mwy o salwch a marwolaethau ymhlith grwpiau agored i niwed

Cyhoeddwyd: 13 Tachwedd 2025

Mae'r adroddiadau cyntaf ar effeithiau gwres ar iechyd a gyhoeddwyd yng Nghymru yn dangos bod gan 'ddigwyddiadau gwres' fel tonnau gwres, nosweithiau poeth, gwres cymedrol a gwres cynyddol gysylltiadau cryf â mwy o afiachedd a marwolaethau. Mae’r adroddiadau’n argymell bod rhagor o ymchwil yn cael ei gwneud yng Nghymru i ddatblygu tystiolaeth barhaus o effeithiau gwres ar iechyd. 

Yn ogystal, mae'r adroddiadau'n dangos bod y digwyddiadau hyn yn cael effaith anghymesur ar grwpiau agored i niwed fel oedolion hŷn, plant, cymunedau sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, a rhai lleiafrifoedd ethnig. Mae ffactorau fel llygredd aer a lleithder yn aml yn cynyddu effaith gwres. 

Yn ystod cyfnodau o wres mawr yn haf 2024, mae'r adroddiadau'n dangos bod cynnydd o 83 y cant yn nifer y plant a ymwelodd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys o ganlyniad i broblemau gastroberfeddol, cynnydd o 90 y cant yn nifer y plant a ymwelodd ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys o ganlyniad i broblemau 'seicolegol/seiciatrig' mewn ardaloedd trefol, a chynnydd yn nifer y galwadau 999 oherwydd ffitiau.  Gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer yr ymgynghoriadau â meddygon teulu yn dilyn strôc gwres. 

Roedd hyd yn oed digwyddiadau gwres byr yn gysylltiedig â rhagor o farwolaethau yng Nghymru. Er nad oedd ton wres genedlaethol, arweiniodd cyfnod gwres byr rhwng 28 Gorffennaf a 2 Awst at risg ystadegol arwyddocaol o farwolaethau dyddiol, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn a'r boblogaeth drefol.  Y gyfradd marwolaethau dyddiol gyfartalog yn ystod y cyfnod hwn oedd 93 o farwolaethau, o'i chymharu ag 84 o farwolaethau y tu allan i'r cyfnod gwres.  Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn argymell bod angen rhagor o ymchwil i gadarnhau bod y cynnydd mewn marwolaethau wedi'i achosi gan wres. 

Mae'r tri adroddiad yn gyfres dros dro o gyhoeddiadau gan y Tîm Gwyliadwriaeth Hinsawdd ac Amgylcheddol Integredig (ICE), sy’n gweithio yn yr Is-adran Diogelu Iechyd, sy’n rhan o Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC) Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y  nod yw adnabod yr amlygiad i wres sydd fwyaf tebygol o arwain at gynnydd mewn canlyniadau iechyd niweidiol, yn ogystal ag archwilio'r dangosyddion iechyd sy'n dangos graddfa afiachedd a marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres. 

Mae archwilio effaith gwres cynyddol ar iechyd yn arbennig o bwysig nawr gan fod y deng mlynedd poethaf a gofnodwyd yng Nghymru i gyd wedi digwydd ers dechrau'r 2000au. Mae rhagamcanion yn dangos y bydd y duedd gynhesu hon yn cynyddu.  Mae’n debyg y bydd tymheredd uwch yn arwain at ddigwyddiadau gwres mwy aml, fwy dwys ac estynedig. Disgwylir i hyn gynyddu’r pwysau ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen tystiolaeth a gwyliadwriaeth wedi’u teilwra ar afiachedd a marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwres er mwyn cynllunio’n effeithiol. 
Byddai gwell gwyliadwriaeth o ran iechyd a gwres yn cefnogi gwaith ehangach Cymru i amddiffyn cymunedau rhag y niwed i iechyd sy'n gysylltiedig â hinsawdd sy'n cynhesu. 

Dywedodd Dr Behrooz Behbod, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Wrth i’r hinsawdd gynhesu’n fyd-eang, bydd digwyddiadau gwres yn digwydd yn amlach a byddant yn debygol o achosi mwy o effeithiau sy’n gysylltiedig ag iechyd.  Drwy fesur yn benodol yr effaith ar wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, bydd modd cynllunio gwasanaethau'n fwy effeithiol i sicrhau mwy o wydnwch yn y blynyddoedd i ddod. 

“Mae gwledydd eraill fel Ffrainc, UDA ac Awstralia wedi datblygu systemau gwyliadwriaeth uwch yn seiliedig ar fodelu mwy cymhleth. Gallwn ddysgu llawer gan y gwledydd hyn ac addasu eu dulliau i gyd-destun Cymru fel rhan o’n hymdrechion i gefnogi gwaith addasu i'r hinsawdd.”

Adroddiadau

Morbidrwydd a Marwolaethau Gwres yng Nghymru

Monitro Morbidrwydd Gwres yng Nghymru

Monitro Marwolaethau Gwres yng Nghymru